Simon Thomas
Bydd Plaid Cymru yn anfon cynrychiolwyr i’r Alban i ddysgu gwersi gan yr SNP, ar ôl i’r blaid ennill mwyafrir clir yn Senedd Holyrood.

Fel rhan o’r post mortem i hynt a helynt Plaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad – yn colli pedair sedd a gorffen yn drydydd gydag 11 Aelod – mi fydd dirprwyaeth o’r Blaid yn ymweld â’r Alban.

Yn ôl un o ACau newydd Plaid Cymru a chyn AS Ceredigion, Simon Thomas, mae angen i’w blaid ddysgu sut wnaeth yr SNP drosglwyddo eu neges wleidyddol mor dda.

“Mae yna rywbeth am y ffordd maen nhw’n gwerthu eu neges. Yr un neges sy’ gyda nhw ac sy’ gyda ni, ond mae’r ffordd maen nhw’n gwerthu’r neges yn fwy apelgar yn y cyd-destun yna.”

Yn ôl Simon Thomas, mae Plaid Cymru wedi methu â darbwyllo’r etholwyr er bod ei pholisiau yn ddigon parchus.

“Dw i ddim wedi gweld na chlywed neb yn feirniadol iawn o’r maniffesto, na chlywed neb yn feirniadol iawn o’r trefniadau,” meddai.

“Ond ble falle mae rhywbeth wedi cwympo oedd trosglwyddo hyn yn y neges, yn y cyfathrebu ac mae’n amlwg ein bod ni ddim wedi llwyddo i wneud hynny.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 12 Mai