Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Yn ôl arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru mae’n gyfnod newydd i Blaid Cymru ar ôl colli pedair sedd yn y Cynulliad eleni.

“Dw i’n meddwl yn y cyfnod ers 1999 a sefydlu’r Cynulliad maen nhw wedi chwarae rôl holl bwysig i sefydlogi a gyrru’r agenda cyfansoddiadol yn ei blaen,” meddai Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Ond ar ôl ennill Refferendwm mae’r rôl y mae Plaid Cymru wedi’i chwarae ar ôl ‘99 wedi darfod.

“Mae’r byd gwleidyddol wedi symud ymlaen a chwestiwn yn codi ‘Beth nesaf i’r Blaid?’ Dw i’n meddwl bod Plaid Cymru wedi bod yn anlwcus nad oedd digon o fwlch rhwng y Refferendwm a’r etholiad i’r blaid hyd yn oed feddwl am hynny.”

Ar ôl cyfarfod o Aelodau newydd y Cynulliad ddechrau’r wythnos cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones na fyddai’n rhoi’r gorau i arwain Plaid Cymru.

“Dw i’n meddwl bod y blaid wedi bod yn reit gall ddim yn gorfodi Ieuan Wyn Jones i gerdded y planc fel petai a’u bod nhw ddim wedi mynd yn syth at frwydr arweinyddol.” meddai Richard Wyn Jones,

“Os ydi fy nadansoddiad i yn gywir ei bod yn ddiwedd cyfnod ar rôl y blaid yng ngwleidyddiaeth Chymru, mae’n awgrymu bod angen rhywbeth mwy sylfaenol.

“Nid jest yr arweinydd sydd angen ei drafod a se’n nhw’n syth i frwydr arweinyddol dw i’n meddwl y byddai wedi rhwystro’r drafodaeth fwy sylfaenol sydd ei hangen.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 12 Mai