Adam Price
Mae un o gyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price, wedi awgrymu fod y Blaid Lafur yn fwy tebygol o arwain Cymru at annibyniaeth na’i blaid ei hun.

Mewn darn barn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’n edrych ar oblygiadau buddugoliaeth yr SNP yn yr Alban i Gymru.

“Pan mae Alex Salmond yn dweud bod annibyniaeth yr Alban nawr yn anochel, mae’r byd yn gwrando. Mae e’n iawn, wrth gwrs,” meddai.

“Wedi blwyddyn o negydi, a phleidlais i gadarnhau, mi fydd yr Alban yn wlad sofran erbyn 2017. Yr ydym yn byw mae’n debyg felly yn chwe blynedd olaf y Deyrnas Gyfunol.”

Mae’n cymharu hanes annibyniaeth yr Unol Daleithiau gyda dyfodol Cymru gan ddweud mai “gwrthryfelwyr amharod oedd y rhan fwyaf o arweinwyr America”.

“A beth am Gymru? Mae hi, yng ngeiriau bythgofiadwy Harri Webb, yn cerdded wysg ei chefn, at annibyniaeth.”

“Gydag arweinyddiaeth Plaid Cymru yn amharod hyd yn oed i sibrwd y gair, ai’r Blaid Lafur fydd yn delifro annibyniaeth i Gymru wedi’r cwbl?” meddai.

Pa gân fydd Carwyn yn ei gosod mewn pum mlynedd, dyweder, a’r Undeb yn chwalu o’n cwmpas?”

Darllenwch y darn barn yn llawn yng nghylchgrawn Golwg, 12 Mai