Canolfan Waith
Mae adroddiad gan Gomisiwn Cydraddoldeb  a Hawliau Dynol Cymru yn awgrymu fod tlodi a diweithdra yn fwy o broblem yn y wlad nag yng ngweddill Prydain.

Yn ôl adroddiad Anatomi Anghydraddoldeb yng Nghymru gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru mae tua 20% o boblogaeth y wlad yn byw mewn tlodi.

Roedd canran y gweithwyr sy’n cael cyflogau isel yn uwch yng Nghymru nac yn y Deyrnas Unedig, meddai’r adroddiad, a bron i hanner rhieni sengl Cymru yn byw mewn tlodi.

Doedd bod mewn gwaith ddim bob tro yn datrys y broblem  chwaith, â 13% o gartrefi lle’r oedd rhywun yn gweithio yn byw mewn tlodi.

Addysg

Yn ôl yr adroddiad mae 26% o weithwyr cyflogedig Cymru yn ennill ychydig iawn o arian, o’i gymharu â 22% ar draws Ynysoedd Prydain.

Yn ôl yr adroddiad mae cefndir disgyblion yn cael effaith sylweddol ar ba mor llwyddiannus y maen nhw ym myd addysg.

Mae disgyblion yng Nghymru sy’n gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim yn yr ysgol 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael gradd A* – C mewn pynciau craidd na disgyblion eraill.

Dywedodd yr adroddiad fod “gysylltiad cryf rhwng incwm teuluol a thebygolrwydd disgyblion o ennill cymwysterau”.

Anabl

Mae pobol anabl tair gwaith yn ragor tebygol o gael dim cymwysterau addysg na phobol sydd ddim yn anabl.

Pobol sy’n anabl neu sydd â chyflwr sydd yn eu hatal rhag gweithio sydd hefyd fwyaf tebygol o fod allan o waith, meddai’r adroddiad.

Roedd 74% ohonyn nhw yn anghyflogedig – tair gwaith cymaint â’r gyfran ar draws Ynysoedd Prydain, sef 22%.

Cyfoeth

Serch hynny mae’r adroddiad yn dweud nad ydi’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd mor llydan yng Nghymru a gweddill Ynysoedd Prydain.

Mae gan y 10% mwyaf cyfoethog yng Nghymru tua £100,000 yn llai o gyfoeth o’i gymharu â’r 10% cyfoethocaf ar draws Ynysoedd Prydain yn ei gyfanrwydd.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn dilyn cyhoeddi adroddiad  Anatomi Anghydraddoldeb yn y Deyrnas Unedig y llynedd.