Prifysgol Bangor
Mae perchnogion rhai busnesau ym Mangor uchaf yn pryderu ynglŷn ag effaith posib codi ffioedd myfyrwyr yn y Brifysgol yno.

Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr i astudio yno o fis Medi 2012 ymlaen.

Mae disgwyl i Brifysgolion Caerdydd a Bangor wneud yr un fath ac mae busnesau yn pryderu y gallai arwain at gwymp yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio yno.

Dywedodd perchennog Tafarn y Glôb, nid nepell o’r brifysgol ar y bryn, wrth Golwg360 fod ei dafarn yn denu llawer o Wyddelod a myfyrwyr rhyngwladol.

Gallai codi ffioedd myfyrwyr olygu bod llai  o bobl ifanc yn gwario yn y dafarn a busnesau eraill ym Mangor uchaf, meddai.

“Wrth i ffioedd godi dros y blynyddoedd diweddaraf, ‘dw i’n gweld ar ôl wythnos y glas ac ar ôl i’r tymor gychwyn bod llai o bobl yma. Mae mwy yn dewis  byw gartref,”  meddai Gerallt Williams, perchennog y Glôb.

“Mae’r ffioedd mor uchel – un o’r pethau cyntaf sy’n cael eu heffeithio yw gwario ar weithgareddau cymdeithasol fel nosweithiau allan.

“Yn sicr, byddai codi ffioedd yn peri pryder i mi ac i berchnogion busnesau eraill yn yr ardal mae’n siŵr, gan y byddai’n siŵr o’u heffeithio”.

Dywedodd Stephanie Pollard, Perchennog siop drin gwallt Zig Zags ym Mangor uchaf  fod tua 40% o’i chwsmeriaid yn fyfyrwyr.

“Dydi codi’r ffioedd ddim yn deg arnyn nhw  ac mae’n siŵr o effeithio ar lawer o fyfyrwyr. Fedran nhw ddim fforddio talu mwy mewn ffioedd a fedrwn ni ddim fforddio colli busnes,” meddai.

Dywedodd Edward Sweeney, Perchennog siop frechdanau Options, y byddai’n pryderu am effaith codi ffioedd myfyrwyr ar ei fusnes ef hefyd.

“Mi fydden i’n dweud fod tua 70% o gwsmeriaid y siop yn fyfyrwyr,” meddai cyn dweud y byddai codi’r ffioedd yn debygol o gael effaith ar allu’r busnes i gyflogi staff.

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wrth Golwg 360 ar ôl cyhoeddiad Aberystwyth eu bod nhw’n bwriadu protestio os oes cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno yno.

“Os yw Aber yn gofyn am £9,000 mae’n debygol y bydd Prifysgolion Bangor a Chaerdydd yn gwneud hefyd,” meddai Mair Rowlands, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wrth Golwg360.

Dw i’n rhagweld y bydd lobio ac y byddwn ni’n brwydro dros y myfyrwyr ar bob lefel os ydi hyn yn digwydd ym Mangor.”

Mae disgwylb y bydd cynllun ffioedd y brifysgol yn cael ei ddatgelu yn ystod yr wythnosau nesaf.