Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones, arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, wedi ei ethol yn Brif Weinidog.

Ef oedd yr unig Aelod Cynulliad a enwebwyd ar gyfer y swydd.

Dywedodd y Llywyd newydd, Rosemary Butler, y byddai’n argymell i’r Frenhines ei bod yn urddo Carwyn Jones yn Brif Weinidog.

Dywedodd ei fod yn “fraint ac yn anrhydedd i dderbyn yr enwebiad yma i fod yn Brif Weinidog Cymru unwaith eto”.

Diolchodd i’w deulu am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd, a thalu teyrnged i’w fam, fu farw chwe diwrnod ar ôl iddo dderbyn yr enwebiad cyntaf ym mis Rhagfyr 2009.

“Rydw i’n gobeithio y bydd yna achlysuron lle y bydd modd dod o hyd i dir cyffredin rhwng y pleidiau,” meddai.

Dywedodd ei fod yn “ymwybodol o’r rhifyddeg o fewn y siambr yma a’r angen i gydweithio gyda’r pleidiau erail.

“Rydw i’n edrych ymlaen at y pum mlynedd nesaf ac yn addo gwneud fy ngorau dros bobol Cymru.”

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, fod “pobol Cymru yn gyndyn iawn i roi mwyafrif clir i unrhyw blaid. Am y pedwerydd tro does yr un blaid wedi cael mwyafrif dros bawb”.

“Mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud yn glir ei fod yn chwennych cyd-weithio gyda’r pleidiau eraill,” meddai.

Ond rhybuddiodd Carwyn Jones na fyddai ei swydd yn un hawdd iawn yn y dyfodol, ac y bydd yn anodd iawn i’r Blaid Lafur sicrhau bod deddfwriaeth yn llwyddo ar eu pennau eu hunain.

Talodd deyrnged i gyn-arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, gan ddweud ei fod yn arweinydd effeithiol i’w blaid.