Dafydd Elis-Thomas
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud y bydd Plaid Cymru yn ôl mewn grym “yn gynt na’r disgwyl” ar ei ddiwrnod olaf yn Llywydd y Cynulliad.

Dywedodd wrth orsaf radio’r BBC ei fod yn disgwyl i Blaid Cymru fynd yn ôl i glymblaid gyda Llafur “yn gynt nag ydych chi’n ei ddisgwyl efallai”.

Ychwanegodd nad oedd yn disgwyl y byddai’r Blaid Lafur yn gallu llywodraethu ar ei phen ei hun â dim ond 30 aelod, gan ddweud y bydd “ryw argyfwng yn dod”.

Ychwanegodd ei fod eisiau chwarae rhan yn y broses o ail-adeiladu Plaid Cymru ar ôl eu siom etholiadol ddydd Iau.

“Dydw i ddim yn gefnogol i’r syniad yma fod angen i ni fynd yn ôl yn wrthblaid,” meddai. “Roedden ni yn wrthblaid am 82 mlynedd a dw i ddim yn gweld unrhyw fudd mewn mynd yn ôl yno.

“Mae yna dri neu bedwar ohonom ni ar feinciau Plaid sydd â phrofiad seneddol. Mae gennym ni rywbeth i’w gynnig ac fe fyddwn ni yn gwneud hynny.”

Ddoe cyhoeddodd y darpar Brif Weinidog, Carwyn Jones, eu bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen a llywodraethu ar eu pennau eu hunain heb fwyafrif.

Ond dywedodd y byddai’r pleidiau yn “gweithio gyda’i gilydd” ac y bydd yn trafod ymhellach gyda’r pleidiau eraill gyda’r gobaith o gyd-weithio yn y dyfodol.

Fe fydd y Llywydd a#’r Dirprwy Lywydd newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Yr AC Ceidwadol, Rosemary Bulter, a’r AC Llafur, William Graham, yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd.