Mae cyw gwalch wedi deor ger Porthmadog, cyhoeddodd RSPB Cymru.

Dywedodd yr elusen mai dyna’r gwalch cyntaf i ddeor ym Mhrydain eleni. Daeth allan o’r wy yn y nyth yn Aberglaslyn yn hwyr brynhawn ddoe.

“Mae wedi bod yn dymor cyffrous iawn ar safle Gweilch Aberglaslyn eleni,” meddai swyddog y gweilch, Geraint Williams.

“Yr eisin ar y gacen fyddai cadarnhad ein bod ni wedi gweld y gwalch cyntaf yn cael ei eni unrhyw le ym Mhrydain.”

Dywedodd fod rhieni’r cyw wedi dychwelyd i Aberglaslyn mis yn gynharach na’r disgwyl eleni.

Ers hynny maen nhw wedi dodwy tri wy ac wedi treulio’r dyddiau diwethaf yn gwylio’r nyth.

Dyma’r wythfed flwyddyn yn olynol y mae’r gweilch wedi dychwelyd i Aberglaslyn.

Gall ymwelwyr i ardal Porthmadog gadw golwg ar y nyth o safle gwylio arbennig ym Mhont Croesor, Aberglaslyn.