Y Cae Ras (Llun o wefan Clwb Wrecsam)
Cyhoeddwyd neithiwr fod y ddynes fusnes Stephanie Booth wedi penderfynu peidio ceisio prynu clwb Wrecsam.

Daw’r newyddion wrth i Wrecsam wynebu tymor arall yn Uwch Gynghrair Blue Square, ar ôl colli 2 -1 yn erbyn Luton oddi cartref neithiwr.

Roedd y clwb 3 -0 i lawr ar ôl y cymal cyntaf ond roedd gobaith ar ôl wyth munud yn y gêm neithiwr wrth i  Andy Mangan daro pêl gan Adrian Cieslewicz i gefn y rhwyd.

Daeth cyfle hefyd i Gareth Taylor ar ôl i Dan Gleeson lawio’r bêl ond cafodd y gic gosb ei safio gan gôl-geidwad Luton, Mark Tyler.

Sgoriodd Zdenek Kroca dros Luton gyda pheniad i gefn y rhwyd, cyn i Jason Walker sgorio’r ail.

Bydd Luton yn chwarae yn y ffeinal yn Stadiwm Eastlands Manchester City ar 21 Mai.

‘Gwerthu enaid’ y clwb

Dywedodd Stephanie Booth neithiwr nad oedd hi bellach yn bwriadu ffurfio partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam er mwyn prynu’r clwb.

Cyhuddodd yr ymddiriedolaeth o fod yn fodlon “gwerthu enaid” y clwb er mwyn ei brynu.

Dywedodd Stephanie Booth ei bod hi wedi penderfynu peidio cyhoeddi’r newyddion nes ar ôl yr ornest gyda Luton neithiwr er mwyn osgoi “effeithio ar y clwb mewn modd negyddol”.

“Fe alla’i ddatgelu yn awr fy mod i wedi cynnig bod Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn cael bod yn berchen y rhan fwyaf o’r clwb er y byddwn i’n buddsoddi y rhan fwyaf o’r arian er mwyn clirio dyledion y clwb. Maen nhw wedi gwrthod hyn,” meddai.

Dywedodd fod yr ymddiriedolaeth wedi penderfynu mynd i drafodaethau gyda Stephen Cleeve a Colin Poole yn lle.

“Fy marn bersonol y ydi y byddai Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn gwerthu ei enaid er mwyn gallu rheoli Clwb Pêl-droed Wrecsam, beth bynnag y canlyniadau.

“Rydw i wedi parhau â’r broses yma drwy ddŵr a thân, gan fuddsoddi arian, amser ac ymdrech wrth oddef sylwadau enllibus, camdriniaeth bersonol a bygythiadau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam eu bod nhw’n siomedig iawn wrth glywed sylwadau Stephanie Booth.

Dim ond amlinell cynllun oedden nhw wedi ei dderbyn ganddi erioed, meddai. Dywedodd y dylai hi gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru os oedd hi wedi derbyn unrhyw fygythiadau yn ei herbyn.