Ffred Ffransis (llun Cymdeithas yr Iaith)
Mae ymgyrchydd iaith wedi dechrau ymprydio am 50 awr heb ddŵr na bwyd cyn cyfarfod gan Gyngor Gwynedd i benderfynu ffawd ysgol yn y sir.

Bydd y cyngor yn penderfynu yfory a fydd Ysgol y Parc, ger y Bala, yn cael ei gadw ar agor ai peidio.

Fe aeth Ffred Ffransis draw i swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe gyda 75 copi o’r dystiolaeth dros gadw Ysgol Y Parc ar agor.

“Rydyn ni’n cyflwyno tystiolaeth newydd i’r Cyngor sydd wrthi’n ystyried dyfodol Ysgol Y Parc,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg.

Nod ymprydio, meddai, yw dangos fod perygl gwirioneddol i fywyd y gymuned wledig Gymraeg yn ardal Ysgol y Parc.

Dywedodd Ffred Ffransis ei fod eisoes wedi anfon llythyr at bob cynghorydd yn dweud nad oes unrhyw reswm addysgol dros gau’r ysgol, nag unrhyw arbedion ariannol ar raddfa a all gyfiawnhau chwalu cymuned Gymraeg.

Mae’n annog y Cyngor i ystyried creu ffederasiwn o ysgolion yn yr ardal fyddai’n golygu eu bod nhw’n rhannu adnoddau.

“Doedd y posibilrwydd o sefydlu Ffederasiwn Penllyn yn cwmpasu Ysgol Gydol Oes newydd yn Y Bala a’r pedair ysgol gynradd wledig ddim yn bodoli yn ystod yr adolygiad gwreiddiol o addysg yn ardal Y Bala,” meddai.

“Y llynedd y cyflwynodd y Llywodraeth y rheoliadau newydd. O ganlyniad, dyw’r  model hwn – a allai gryfhau addysg ym Mhenllyn ac arbed llawer yn fwy na’r cynnig presennol – ddim wedi ei astudio gan y Cyngor.

“Ar ben hyn, yr ydym wedi cyflwyno heddiw i bob cynghorydd llythyr a ddaeth  – ers diwedd y cyfnod ymgynghori – gan Lywodraethwyr Ysgol Uwchradd y Berwyn yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc ac yn galw am gynnwys yr ysgol yn y drefn newydd ar gyfer ardal Penllyn”