Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr
Mae’r Ceidwadwyr wedi mynnu y dylai Aelod Cynulliad o’u plaid nhw fod yn Llywydd y Cynulliad.

Ond mae’r arweinydd dros dro, Paul Davies, wedi gwrthod dweud pwy sy’n bwriadu ceisio am y swydd.

Mae enwau Angela Burns a William Graham eisoes wedi eu crybwyll.

Dywedodd Paul Davies nad oedd y Ceidwadwyr eisiau i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd ddod o’r gwrthbleidiau, a fyddai’n rhoi mwyafrif i’r Blaid Lafur yn y Senedd.

Mae llywyddion yn cadeirio cyfarfodydd llawn yn y Senedd yn ogystal â chynnal trefn mewn cyfarfodydd, ac amddiffyn hawliau ACau.

Yn draddodiadol mae’r llywydd neu’r dirprwy lywydd yn dod o un plaid sydd mewn llywodraeth ac un o’r gwrthbleidiau.

Dros y 12 mlynedd diwethaf mae Dafydd Elis Thomas o Blaid Cymru wedi bod yn Llywydd.

Ond ar ôl rhagori ar Blaid Cymru yn yr etholiadau’r wythnos dywedodd y Ceidwadwyr y dylai un o’u ACau nhw gymryd yr awennau.

“Mae Dafydd Elis Thomas wedi gwneud ei waith yn wych dros y 12 mis diwethaf a gwneud yn siŵr fod y Cynulliad yn datblygu yn sefydliad democrataidd go iawn,” meddai Paul Davies.

“Ond yng ngoleuni ein canlyniad gwych yr wythnos diwethaf rydyn ni’n credu y dylai’r Llywydd ddod o’n meinciau ni.”

Mynnodd nad oedd y Ceidwadwyr wedi taro unrhyw fargeinion er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael dewis y Llywydd.

Dywedodd fod “rheolau’r Cynulliad yn ei gwneud yn glir” na ddylai’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd ddod o’r un blaid.