Carwyn Jones
Mae’r Blaid Lafur wedi cadarnhau eu bod nhw wedi bod yn cynnal trafodaethau anffurfiol gydag o leiaf un o’r pleidiau eraill yn y Cynulliad.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwadu mai nhw yw’r plaid dan sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad yw’r “Democratiaid Rhyddfrydol wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau gyda’r Blaid Lafur ers yr etholiad dros y penwythnos – yn anffurfiol neu fel arall”.

Mae hynny’n awgrymu fod y Blaid Lafur wedi bod mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru.

Mae ACau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi bod mewn cyfarfodydd yng Nghaerdydd heddiw ac fe fydd ACau y Blaid Lafur yn cwrdd yfory.

“Mae trafodaethau anffurfiol wedi eu cynnal heddiw a dros y penwythnos o fewn y Blaid Lafur a gyda phleidiau gwleidyddol eraill,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

“Fe fydd y grŵp Llafur newydd yn cyfarfod yfory er mwyn trafod y opsiynau a’r ffordd ymlaen ar gyfer Cymru.

“Yn dilyn y cyfarfod hwnnw fe fydd Carwyn Jones yn cyhoeddi datganiad er mwyn sicrhau fod gan Gymru lywodreath sefydlog.”

Mae disgwyl i gyfarfod llawn cyntaf y Senedd gael ei gynnal ddydd Mercher, er mwyn ethol Llywydd, Dirprwy Lywydd, ac o bosib Prif Weinidog.

Tri dewis i Carwyn

Mae gan Carwyn Jones, arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, dri opsiwn – llywodraethu ar eu pennau eu hunain, clymblaid swyddogol, neu gytundeb answyddogol gydag un o’r pleidiau eraill.

Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi dweud y byddai hi’n agored i drafod clymbleidio.

Ond awgrymodd llefarydd ar ran y blaid y byddwn nhw’n disgwyl am arweiniad gan y Blaid Lafur.

“Methodd y Blaid Lafur ag ennill mwyafrif, na chwaith y ‘mwyafrif cyffyrddus’ oedd Carwyn Jones wedi son amdano ar ddechrau’r ymgyrch,” meddai’r llefarydd.

“Serch hynny, nhw yw’r blaid fwyaf a gyda hanner y seddi rydyn ni’n disgwyl i Carwyn Jones ffurfio llywodraeth.

“Blaenoriaeth y Democratiaid Rhyddfrydolfydd gweithredu y polisiau ydan ni wedi ymgyrchu o’u plaid yn ystod yr etholiad.

“Dyna fydd y nod yn y Cynulliad yma ac fe fydd Kirsty Williams a’r tim newydd yn cymryd pob cyfle I hybu hynny, beth bynnag yr amgylchiadau.”