Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr i astudio yno o fis Medi 2012 ymlaen.

Pleidleisiodd Cyngor y Brifysgol o blaid y newid mewn cyfarfod heddiw.

Bydd rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gytuno cyn y bydd gan Brifysgol Aberystwyth yr hawl i godi’r swm.

Dywedodd Prifysgol Bangor fod rhaid i’r Cyngor “sicrhau bod y refeniw yn y dyfodol yn ein digolledu am unrhyw doriadau mewn cefnogaeth gan y llywodraeth”.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi’r hawl i brifysgolion godi hyd at £9,000 ar fyfyrwyr os ydyn nhw’n sicrhau fod myfyrwyr tlotach yn cael mynediad.

Ond cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, cyn yr etholiad na fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu ffioedd dysgu uwch lle bynnag ym Mhrydain y maen nhw’n mynd i’r brifysgol.

Serch hynny fe fydd myfyrwyr sy’n dod o Gymru o Loegr yn gorfod talu’r swm llawn. Ar hyn o bryd mae’n rhaid talu £3,290 y flwyddyn i gael astudio yno.

Mae disgwyl i brifysgolion blaenllaw eraill Cymru, gan gynnwys Bangor a Chaerdydd, hefyd godi y £9,000 llawn ar fyfyrwyr.

‘Ansicrwydd’

“Mae Addysg Uwch yn mynd drwy gyfnod o newid cyflym ac ansicrwydd; bydd y model cyllido o 2012/13 yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi bod o’r blaen,” meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Noel Lloyd.

“Gyda’r cyhoeddiad hwn heddiw rydym yn tanlinelli ein ymrwymiad i enhangu mynediad i fyfyrwyr, i gyfrannu at gyfianwder cymdeithasol ac i gynnig pecyn cymorth fydd yn sicrhau bod myfyrwyr sydd yn gwneud cais i astudio yn Aberystwyth yn derbyn cefnogaeth ar bob lefel o’u hastudiaethau, nes eu bod yn graddio.”

“Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sydd yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr, cynnig adnoddau dysgu, addysgu a phreswyl rhagorol iddynt, a’u bod yn cael eu dysgu gan staff sydd yn ymwneud ag ymchwil o safon byd a thechnoleg o’r radd flaenaf. Mae angen i ni sicrhau bod myfyrwyr sydd yn dod i Aberystwyth yn mwynhau darpariaeth o’r radd uchaf.”

‘Protestio, lobio, ac ymladd’

“Nid yw’r penderfyniad yn ein synnu wrth edrych ar beth sydd wedi digwydd dros y ffin, ond mae’n rhaid i Aberystwyth ddiogelu ei phrofiad myfyrwyr ac ymrwymo’n llwyr i roi’r addysg gorau i’r myfyrwyr.,” meddai Rhiannon Louise Wade, Llywydd UMCA.

“Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i wella cyfleusterau dysgu ond mae’n rhaid i ni sichrau mai’r myfyrwyr sydd ar graidd bob penderfyniad a wneir gan y Brifysgol.

“Mae’r Brifysgol wedi dweud yn barod ei bod yn bwriadu buddsoddi mwy o arian i mewn i fyfyrwyr ehangu mynediad wrth ddarparu dros £1miliwn i mewn i bwrsarïau ond gyda’r gallu i fyfyrwyr Cymru fynd dros y ffin a derbyn hyd yn oed mwy o arian, beth fydd y cymhelliad iddynt aros yng Nghymru.

“Rydym wedi protestio, lobio, ac ymladd dros fyfyrwyr ar bob lefel, a dyma’r ddadl bwysicaf rydym wedi ei chael gyda’r Brifysgol, ond nid yw hynny’n golygu yr ydym yn hapus gyda’r penderfyniad.

“Yn anffodus rydym yn gweld yr effaith ehangach mae penderfyniad llywodraeth San Steffan wedi’i gael ar y Cynulliad a gyda’r holl ansicrwydd ar hyn o bryd, a fydd penderfyniad y Cynulliad i gymorthdalu myfyrwyr Cymru yn un gynialadwy.”