Shane Williams
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r enwogion a fydd yn derbyn cymrodoriaeth er anrhydedd yn ystod y seremonïau graddio eleni.

Bydd y gantores Duffy, y chwaraewr rygbi Shane Williams, a’r actor Julian Lewis Jones ymysg y rheini fydd yn cael eu hanrydeddu rhwng 9 a 15 Gorffennaf eleni.

Ymysg yr enwau eraill mae’r strategydd buddsoddi rhyngwladol blaenllaw Paul Deeney, John Herbert, Iarll Powis, y cyfeilydd Rhys Jones, yn arbenigwr gwleidyddol yr Athro Laura McAllister, a’r bardd Yr Athro Gwyn Thomas.

“Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad cryf o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o  feysydd gwahanol drwy ddyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd,” meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol.

“Mae’r un yn wir eleni. Bydd ein Cymrodyr yn cyfrannu arbenigrwydd a chyfaredd at y seremonïau, tra byddwn hefyd yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr.”


Prifysgol Bangor (Dave Thompson/PA)
Y Rhestr:

Duffy: Cantores wedi ei geni a’i magu yn Nefyn, Gwynedd. Aeth ei albwm cyntaf Rockferry i rif un yn siartiau albwm y DU yn 2008 gan werthu 1.7 miliwn o gopïau. Mae wedi ymddangos yn ei ffilm gyntaf, Patagonia, yn ddiweddar. Am wasanaeth i gerddoriaeth.

Paul Feeney: Cyn-fyfyriwr ym Mangor a strategydd buddsoddi rhyngwladol blaenllaw gyda BNY Mellon Asset Management. Am wasanaeth i’r diwydiant gwasanaethau ariannol.

John Herbert, Iarll Powis: Un o ddisgynyddion George Herbert, bardd a aned yng Nghymru, ac mae hefyd yn un o ddisgynyddion llywydd cyntaf Prifysgol Bangor. Mae’n gyn-ddarlithydd ac ymchwilydd prifysgol, mae wedi gweithio’n helaeth gydag academyddion yn Ysgol Saesneg y Brifysgol. Am wasanaeth i ysgoloriaeth ac astudiaethau llenyddol.

Julian Lewis Jones: Actor ffilm a theledu a aned ar Ynys Môn. Mae wedi actio yn ffilm 2008 Clint Eastwood, Invictus, ac mewn amryw o ddramâu teledu, yn cynnwys The Bill, Casualty, Holby City a Spooks – yn ogystal â’r gyfres Caerdydd a’r gyfres Tipyn o Stad ar S4C Am wasanaeth i ddrama.

Rhys Jones, MBE: athro, arweinydd, cyfeilydd a darlledwr. Am wasanaeth i gerddoriaeth a’r gymuned.

Yr Athro Laura McAllister: Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl ac awdurdod blaenllaw ar wleidyddiaeth Cymru. Mae Laura McAllister hefyd yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol i Gymru (24 o gapiau) ac yn Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru. Am wasanaeth i chwaraeon mewn addysg uwch.

Yr Athro Gwyn Thomas: Cyn-fyfyriwr ym Mangor, cyn Athro Cymraeg yn y Brifysgol, bardd a beirniad llenyddol. Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2006/7. Am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru.

Shane Williams: Chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, Chwaraewr y Flwyddyn yr IRB yn 2008 a’r sgoriwr uchaf i Gymru erioed.  Am wasanaeth i chwaraeon.