Enillwyr Cân i Gymru eleni
Mae ‘Rhywun yn Rhywle’, cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru 2011, wedi dod i’r brig yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.

Llwyddodd ‘Rhywun yn Rhywle’ i guro caneuon y gwledydd a rhanbarthau Celtaidd arall, sef Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chernyw.

Ynyr Roberts a Steve Balsamo yw cyfansoddwyr y gân a bu’r ddau yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl flynyddol fel rhan o’r wobr am ennill cystadleuaeth Cân i Gymru. Y grŵp Brigyn oedd yn perfformio yn Iwerddon.

Cynhaliwyd cystadleuaeth yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Dingle, Iwerddon gan ddathlu deugain mlynedd ers cynnal yr Ŵyl gyntaf.

“Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth. Mae ennill yn fonws ychwanegol,” meddai Ynyr Roberts, o Benisarwaun ger Caernarfon,

“Dyma’r tro cyntaf i Brigyn gymryd rhan mewn cystadleuaeth gerddorol ac roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn rhyngom ni ac Ynys Manaw.

“Mae Dingle yn dref hyfryd mewn gwlad arbennig ac roedd naws Geltaidd a gwerinol yn amlwg iawn yno. Roedd y nifer o Gymry a dilynwyr cyffredinol yr Ŵyl hefyd yn arbennig o gefnogol.

“Yn sicr fydden i’n annog unrhyw gerddor i gystadlu yn Cân i Gymru blwyddyn nesaf oherwydd mae’r cyfle i gynrychioli eich mamwlad yn rhywbeth hollol unigryw.”