Swyddfa S4C yng Nghaerdydd
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodreath San Steffan am gadeirydd newydd Awdurdod S4C o fewn y dyddiau nesaf.

Fis diwethaf datgelodd Golwg 360 na fyddai cadeirydd newydd yn cael ei benodi i S4C tan ar ôl etholiad y Cynulliad.

Ar hyn o bryd, Rheon Tomos yw Cadeirydd dros dro’r Awdurdod, ac Arwel Ellis Owen yw’r Prif Weithredwr dros dro.

Ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, cyn y Nadolig.

Mae’r sianel wedi bod heb Brif Weithredwr parhaol ers i Iona Jones gael ei diswyddo fis Awst y llynedd.

Mae disgwyl y bydd Prif Weithredwr parhaol yn cael ei benodi ar ôl i gadeirydd newydd yr Awdurdod gymryd yr awenau.

Mae’r cyn-brif weithredwr, Huw Jones, Rheon Tomos, a chyn aelod o Awdurdod S4C ac o Gyngor Darlledu’r BBC, Enid Rowlands, ymysg y ffefrynnau.

Ym mis Mawrth dywedodd Sefydliad Materion Cymreig bod anghydfod rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain tros gadeirydd newydd Awdurdod S4C.

Yr awgrym oedd bod y ddwy lywodraeth yn ffafrio ymgeiswyr gwahanol o blith y pedwar a oedd wedi eu cyfweld.