Catherine Zeta Jones
Mae’r seren Hollywood Catherine Zeta Jones wedi cefnogi ymgyrch i godi £1 miliwn er mwyn achub fferm yn Eryri, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol heddiw.

Daw cefnogaeth yr actores o Abertawe wrth i’r ymddiriedolaeth ddweud eu bod nhw eisoes wedi codi hanner yr arian sydd ei angen er mwyn prynu Llyndy Isaf.

Mae’r fferm 614 acr ger Nant Gwynant yn cynnwys tir wrth droed yr Wyddfa, Llyn Dinas a Dinas Emrys, olion y gaer lle’r oedd y ddraig goch a’r ddraig wen wedi ymladd, yn ôl y stori werin.

Yr ymgyrch, sydd wedi codi dros £500,000 mewn llai na mis, yw’r mwyaf o’i fath yng nghefn gwlad ers i’r ymddiriedolaeth godi arian i gadw’r Wyddfa ym meddiant y cyhoedd ychydig dros ddegawd yn ôl.

Mae’r ymddiriedolaeth yn pryderu y gallai Llyndy Isaf gael ei brynu gan berchennog preifat os nad ydyn nhw’n gofalu amdano.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, dyw’r fferm ddim wedi’i ffermio’n ddwys ers cenedlaethau ac, o ganlyniad, mae’n gartref i amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar prin fel y frân goesgoch a’r hebog tramor.

Os bydd yn cael ei gwerth ar y farchnad agored, medden nhw, mae yna beryg y bydd y 614 erw’n mynd i ddwylo cwmni masnachol a hynny’n bygwth ei chymeriad.

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwarae rhan flaenllaw wrth amddiffyn a rheoli cefn gwlad Cymru,” meddai Catherine Zeta Jones.


Llyndy Isaf (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
“Mae tirwedd a phrydferthwch Eryri yn unigryw ac mae gennym ni gyfle unwaith mewn oes i amddiffyn Llyndy Isaf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Os nad ydyn ni’n bwrw ymlaen nawr fe allai datblygiadau masnachol fygwth llonyddwch y rhan arbennig yma o Eryri. Cefnogwch yr ymgyrch os gwelwch yn dda.”

‘Hanner ffordd’

Dywedodd Richard Neale, rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, eu bod nhw “wrth eu boddau” gydag ymateb y cyhoedd i’w cais am arian.

“Rydyn ni hanner ffordd yno ond allen ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau,” meddai. “Mae angen £500,000 arall o rywle er mwyn caniatáu i ni brynu’r fferm a bwrw ati i gynnal gwaith cynnal a chadw amgylcheddol.”

Os yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn llwyddiannus maen nhw’n addo y bydd cerddwyr yn cael croesi’r tir, y bydd cae gwersylla ar agor i bawb, ac y byddwn nhw’n gwella’r llwybrau troed.

Dylai unrhyw un sydd eisiau rhoi arian fynd i www.nationaltrust.org.uk/snowdoniaappeal neu ffonio 0844 800 1895.