A55
Mae ymgyrchwyr sydd eisiau gweld gostyngiad mewn prisiau petrol a disel wedi bod yn cynnal protest gyrru’n araf ar yr A55 heddiw.

Mae’r protestwyr wedi bod yn gyrru 20 milltir yr awr o sawl cyfeiriad tuag at burfa olew Stanlow yn Swydd Gaer.

Mae’r A55 yn ogystal â’r A5, M6, M56 a’r M62 wedi eu heffeithio gan y brotest, sy’n cynnwys dros 500 o yrwyr loriau a ffermwyr.

Mae dros gant o gerbydau eisoes wedi cyrraedd a’r nod yw atal tanceri llawn olew rhag mynd i mewn.

Dywedodd trefnydd y brotest, Ian Charlesworth, o Benarlâg, Sir y Fflint, eu bod nhw’n gobeitho gorfodi’r llywodraeth i ostwng y dreth ar danwydd.

Mae’n rhedeg busnes adeiladu a dywedodd ei fod wedi gorfod diswyddo staff oherwydd fod prisiau tanwydd yn rhy uchel.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, y byddai’n gostwng y dreth 1c, ond mae’r protestwyr eisiau gweld gostyngiad o 24c.