Siambr y Senedd
Mae dirprwy gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig wedi dweud fod Etholiadau’r Cynulliad yn “gam yn y cyfeiriad anghywir” i ferched.

Mae nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd yn y Senedd wedi syrthio o 46% i 40% yn dilyn yr etholiad ddydd Iau.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi arwain y gad yn fyd-eang wrth gynnwys aelodau benywaidd.

Yn etholiad 2003 roedd 50% o Aelodau’r Cynulliad yn ferched, y tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn unrhyw gorff deddfwriaethol yn y byd.

“Mae angen hyn a hyn o ferched ym mhob corff er mwyn sicrhau bod y diwylliant yn cael ei ffemineiddio,” meddai dirprwy gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, Kirsty Davies.

“Dyw’r cwymp yma ddim yn dod a ni yn agos at hynny ond mae’n gam yn y cyfeiriad anghywir.”

Dywedodd fod AC newydd Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford, wedi dweud na fyddai Cytundeb Cymru’n Un wedi digwydd o gwbwl pe na bai yna ferched o amgylch y bwrdd trafod.

“Mae hyn yn siomedig ond nid yw’n syndod o ystyried fod y prif bleidiau wedi penderfynu peidio a gwneud cymaint er mwyn ceisio hybu ymgeiswyr benywaidd,” meddai yr Athro Laura McAllister, cadeirydd Menywod y Sefydliad Materion Cymreig.

“Mae’n bwysig iawn fod pob corff sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn enwedig o fewn gwleidyddiaeth, yn gwneud ei orau i sicrhau bod lleisiau merched yn cael eu clywed.”

Yn 2009 roedd Prifysgol Abertawe a Warwick wedi cynnal astudiaeth i beth oedd effaith y canran uchel o aelodau benywaidd ar y Cynulliad.

Yn ôl yr adroddiad roedd “merched yn tueddu i wneud pethau’n wahanol i’r dynion – maen nhw’n fwy cydsyniol yn hytrach na gwrthwynebol”.