Paul Davies AC
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi penodi’r Aelod Cynulliad Paul Davies yn arweinydd dros dro, ar ôl i Nick Bourne golli ei sedd yn yr etholiad ddydd Iau.

Collodd Nick Bourne ei sedd ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ôl i’w blaid lwyddo i gipio Sir Drefaldwyn.

Fe fydd y blaid yn dechrau ar y broses o benodi arweinydd parhaol ddydd Mercher. Bydd cyfle i aelodau’r blaid yng Nghymru bleidleisio, os oes mwy nag un ymgeisydd, meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Cafodd Paul Davies, AC Preseli Penfro a llefarydd ei blaid ar addysg, ei ddewis gan Aelodau Cynulliad a Bwrdd Rheoli’r blaid.

Y Ceidwadwyr yw’r ail blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl cipio sedd a gweld Plaid Cymru yn colli pedair o’u seddi nhw.

Dywedodd Paul Davies fod yr etholiad wedi bod yn llwyddiant mawr i’w blaid, a’i fod yn gyfnod cyffrous iawn iddyn nhw.

Ychwanegodd fod Nick Bourne “wedi dioddef o ganlyniad i’w lwyddiant ei hun”.