Leon Britton, sgoriodd gôl olaf y tymor i Abertawe
Gorffennodd Abertawe uwchben Caerdydd yn y Bencampwriaeth, ar ôl maeddu Sheffield United 4-0 gartref.

Bu’n rhaid i Gaerdydd fodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Burnley oddi cartref, ond mae’r ddau glwb o Gymru wedi gorffen yn safleoedd y gemau ail gyfle.

Sgoriodd Stephen Dobbie ddwywaith dros Abertawe gan rwbio halen yn y briw i Sheffield United sydd wedi eu darostwng o’r Bencampwriaeth ar ôl gorffen yn olaf ond un.

Sgoriodd Stephen Dobbie y cyntaf gyda chic rydd ar ôl i Matthew Lowton ffowlio Scott Sinclair.

Fe aeth Abertawe ddwy gôl ar y blaen ar ôl i Shane Lowry gael cerdyn coch am lawio’r bêl ar y llinell.

Sgoriodd Dobbie ail gôl o ymyl y blwch cosbi a bachodd Leon Britton gôl hwyr er mwyn rhoi rhagor o sglein ar y sgôr.

Roedd Caerdydd wedi gobeithio gorffen yn yr ail safle ond fe aeth Burnley ar y blaen gydag ergyd gan Jay Rodriguez ar ôl 13 munud.

Bu’n rhaid i Gaerdydd ddisgwyl nes 90ain munud cyn i’w capten Craig Bellamy ymateb gyda lobi heibio gôl-geidwad Burnley, Brian Jensen.

Fe allai’r ddau glwb herio ei gilydd am le yn yr Uwch Gynghrair os ydi Abertawe yn maeddu Nottingham Forest a Chaerdydd yn curo Reading.

QPR yn cadw pwyntiau

QPR enillodd y Bencampwriaeth er iddyn nhw golli 1-2 gartref yn erbyn Leeds ar y diwrnod olaf.

Cafodd y clwb wybod gan Gymdeithas Pêl-droed Lloegr na fyddwn nhw’n colli pwyntiau er eu bod nhw’n euog o dorri’r rheolau wrth arwyddo Alejandro Faurlin.

Penderfynodd y gymdeithas eu dirwyo nhw £875,000 yn hytrach na’u gwthio nhw i lawr i safleoedd y gemau ail gyfle.

Roedd Caerdydd ac Abertawe wedi gobeithio gallu sleifio i’r ail safle, a chael eu dyrchafu’n awtomatig, pe bai QPR yn colli pwyntiau.

Dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, y byddwn nhw’n ystyried herio’r penderfyniad.