Mae'r byd yn poeni am atomfeydd niwclear ers y difrod i Atomfa Fukushima
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân yn hen Atomfa Niwclear Trawsfynydd ddoe.

Aeth y gwasanaethau brys i’r digwyddiad mewn ystafell yn yr orsaf brynhawn ddoe am tua un o’r gloch. Roedd tair injan o Flaenau Ffestiniog, Port a Harlech wedi’u gyrru i’r safle.

Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub, roedd drwm plastig â sbwriel ynddo mewn adeilad yn yr orsaf wedi mynd ar dân. “Nam trydanol” oedd achos y tân, meddai’r llefarydd wrth Golwg360.

Symud staff

Fe gafodd tua 200-250 o staff eu symud o’r adeilad ac ni chafwyd unrhyw anafiadau o ganlyniad i’r tân, meddai llefarydd ar ran yr orsaf bŵer wrth Golwg360, cyn ychwanegu nad oedd dim ymbelydredd wedi gollwng.

Roedd y sefyllfa dan reolaeth erbyn tua dau o’r gloch y prynhawn ac nid oedd difrod i’r adeilad – dim ond i’r drwm ei hun.

Mae Magnox yn parhau i ymchwilio i’r sefyllfa, yn ôl llefarydd ar ran yr orsaf yn Nhrawsfynydd.

Mae’r orsaf wedi stopio cynhyrchu pŵer ers 1993 ac yn cael ei ddadgomisiynnu.