Jake Griffiths
Mae Plaid Werdd Cymru wedi methu ennill sedd yn etholiadau’r Cynulliad.
Roeddan nhw wedi disgwyl y bydden nhw’n cael tua 7% o’r bleidlais yn rhanbarth Canol De Cymru.
Ond pedwerydd oedd y Blaid Werdd yn y rhanbarth, tua 6,000 y tu ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol a gymrodd y sedd ddiwethaf.
Er gymaint y siom, mae’r arweinydd yn mynnu ei fod yn falch gydag ymgyrch y Blaid Werdd. Roedd yn dweud bod cefnogaeth i’r amgylcheddwyr wedi cynyddu.
“Doedd gennym ni ddim digon o adnoddau i fynd a’n hymgyrch tu hwnt i’n hardal graidd,” meddai Jake Griffiths.
Yng Nghanol De Cymru David Melding ac Andrew RT Davies fydd yn cynrychioli’r Torïaid gyda Leanne Wood a John Dixon yn cynrychioli aelodau Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd.