Mae Plaid Cymru newydd drechu'r Lib Dems yng Ngheredigion.
Bydd rali’n cael ei chynnal yn Aberystwyth yfory a’r trefnwyr yn gobeithio anfon y neges i Lywodraeth San Steffan bod angen cadw’r lefel bresennol o wasanaethau cyhoeddus yng Ngheredigion.

Bydd Llywydd Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) Siân Wiblin ymhlith y siaradwyr yn yr orymdaith.

Mae’r rali wedi’i threfnu gan grŵp ymgyrchu Ceredigion yn Erbyn y Toriadau (CET) yfory rhwng hanner dydd a dau’r prynhawn.

Mae disgwyl i’r gorymdeithwyr ymgynnull wrth adeiladau’r Cynulliada’r Cyngor Sir yn Rhodfa Padarn o 11.30yb ymlaen. Yn dilyn gorymdaith trwy’r dref, bydd rali’n cael ei chynnal yng Nghastell Aberystwyth am 1yh.

Bydd Siân Wiblin yn ymuno ag Ysgrifennydd Cymraeg Unsain, Paul O’Shea, yr Aelod  Seneddol Ewropeaidd Jill Evans a Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ynghyd â siaradwyr o Geredigion yn Erbyn y Toriadau ac Aber Students Against Cuts.

 

‘Uno yn erbyn toriadau’

“Mae gorymdaith a rali Ceredigion yn Erbyn y Toriadau yn gyfle prin i’r gymuned gyfan yng Ngheredigion uno yn erbyn y toriadau i’r sector cyhoeddus,” meddai Howie Oliver, cyd-gadeirydd Ceredigion yn Erbyn y Toriadau.

“Mae’n anfon neges gref i lywodraeth y Deyrnas Unedig nad ydynt yn fodlon eistedd nôl a gadael i niferoedd mawr o swyddi a gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol gael eu colli oherwydd diffyg ariannu enbyd gan San Steffan

“Mae nifer fawr o swyddi sector cyhoeddus eisoes wedi eu colli yng Ngheredigion ac mae llawer mwy yn debygol o ddilyn. Mae’r sefyllfa yma yn amlwg yn tanseilio ein heconomi leol ac yn cael effaith niweidiol ar fusnesau ar draws y sir ar adeg pan mae llawer ohonynt yn barod yn ei chael hi’n anodd.”