Mae Llafur wedi llwyddo yng Nghaerdydd.
Mae Julie Morgan wedi llwyddo i ddilyn ei gŵr, cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, i’r Cynulliad ar ôl cipio sedd oddi ar y Ceidwadwyr. 

Ar ôl cyfri’r bleidlais dair gwaith, daeth y cyhoeddiad bod Julie Morgan wedi cymryd sedd Gogledd Caerdydd oddi ar Jonathan Morgan gyda mwyafrif o 1,782. 

Fe dderbyniodd ymgeisydd Llafur 16,384 o bleidleisiau – cynnydd o 16.7% ar bleidlais 2007.  Roedd y bleidlais i gyn-AC Gogledd Caerdydd, Jonathan Morgan wedi disgyn 2.9% i 14,602. 

Mae Julie Morgan wedi ennill un o seddi mwyaf cystadleuol yr etholiad, flwyddyn ers iddi golli ei sedd yn Aelod Seneddol dros yr un etholaeth.

“Deuddeg mis yn ôl fe gollwyd o 194 pleidlais, felly mae’n braf iawn cael ennill heddiw. Mae hwn yn gyfle arbennig i greu Cymru well.” meddai Julie Morgan. 

Fe lwyddodd y Blaid Lafur i gipio sedd arall yng Nghaerdydd gyda Jenny Rathbone yn curo ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nigel Howells, o 38 pleidlais i ennill sedd Canol Caerdydd.  

Roedd yr ymgeisydd Llafur wedi derbyn 8,954 o bleidleisiau – cynydd o 16% ar etholiad 2007, tra bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi disgyn 13.4% i 8,916.