Mae Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi colli ei le yn y Cynulliad., ble’r oedd yn aelod ers 1999.
Nick Bourne

Mi fethodd Nick Bourne i ddal ei afael ar sedd ranbarthol yn y Canolbarth.

Mae’n debyg iddo golli oherwydd llwyddiant y Ceidwadwyr i gipio etholaeth Maldwyn oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth Prydain wedi talu teyrnged iddo.

“Mae Nick Bourne wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o drawsnewid delwedd a hynt a helynt y Blaid Geidwadol Gymreig dros ddegawd a mwy,” meddai Cheryl Gillan.

“Mae ei arweiniad, ei weledigaeth a’i ddewrder wedi bod yn ganolog i lwyddiant y blaid dros y blynyddoedd diweddar.”