Vaughan Gething
Mae’r Aelod Cynulliad croenddu cyntaf i gael ei ethol i’r Cynulliad, wedi addo canolbwyntio ar yr her sy’n wynebu Cymru yn hytrach na’r ffaith ei fod wedi creu hanes.

Fe gadwodd Vaughan Gething sedd De Caerdydd a Phenarth i’r Blaid Lafur gyda mwyafrif o  6,259.

Fe enillodd ymgeisydd Llafur 50% o’r bleidlais gyda 13,814 o bleidleisiau, gyda Ben Gray o’r Blaid Geidwadol yn ail gyda 7,555 pleidlais.

Mae’r gwleidydd 37 oed yn gobeithio bod ei ieuenctid a chefndir mewn cyfraith cyflogaeth yn ychwanegu rhywbeth gwahanol i’r siambr yn y Senedd, ac mae’n bwriadu ymgyrchu dros addysg a chael mwy o bobol I gyfrannu i’r broses wleidyddol.

“Rwyf am gael fy nghofio nid yn unig am fod y cyntaf o rywbeth, ond am fod yn dda,” meddai Vaughan Gething.

“Nid wyf wedi hyrwyddo’r ffaith fy mod i’n groenddu yn ystod yr ymgyrch – nid oherwydd bod gennyf gywilydd o bwy ydwyf, ond oherwydd ei fod yn amlwg.

“Rwyf wedi bod yn dweud fy mod i am ddenu pleidleisiau oherwydd rwy’n dda a bod aelodau’r etholaeth yn credu yn yr un gwerthoedd a pholisïau, ac nid rhyw syniad bod fy lliw yn rhoi hawl i mi fod yn Aelod Cynulliad.

“Nid yw hynny’n golygu na fyddaf yn gweithio ar faterion sy’n effeithio pobl croenddu, ond mae’n golygu fy mod i yma i gynrychioli’r etholaeth gyfan a phob cymuned yn Ne Caerdydd a Phenarth.

“Rwyf am weld mwy o bobl sy’n edrych ac yn siarad fel fi – nid yn unig oherwydd y byddai’n dda i’n gwleidyddiaeth, ond oherwydd bod yna bobl arall i gael sy’n ddigon da.”

Roedd Vaughan Gething yn sefyll yn Ne Caerdydd a Phenarth ar ôl i’r cyn-AC, Lorraine Barrett, roi’r gorau i’r swydd ar ddiwedd y trydydd Cynulliad.