Jack, y ci defaid teircoes (NFU)
Mae ci o Bowys a gollodd un o’i goesau mewn damwain y llynedd wedi cael ei anrhydeddu fel ci defaid y flwyddyn mewn cystadleuaeth trwy Gymru a Lloegr.

Er gwaetha’i anabledd, mae Jack, ci defaid teircoes Ian a Ruth Rees, yn dal i weithio fel ci defaid ar eu fferm ger Rhaeadr Gwy.

Roedden nhw wedi ei roi yn y gystadleuaeth ar ôl i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ofyn i aelodau yrru lluniau o’u cwn, ynghyd â 150 o eiriau yn egluro pam y dylai eu ci ennill gwobr.

Roedd perchnogion Jack wedi sôn am sut y bu iddo ddioddef anaf coes difrifol mewn damwain car y flwyddyn ddiwethaf.

Er gwaethaf y ffaith fod milfeddygon wedi gorfod torri coes y ci i ffwrdd, fe ddaeth Jack drwyddi – ac nid yw wedi gadael i hynny ei rwystro yn ei waith.

Yn ôl Ed Bailey, Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, roedd stori Jack wedi gwneud cryn argraff ar feirniaid y gystadleuaeth.

 “Mae llawer o bobl sy’n gweld Jack wrth ei waith yn synnu pan maen nhw’n deall mai tair coes sydd ganddo,” meddai Ruth Rees, sy’n fam i bedair.

“Mae’n naw oed erbyn hyn ac yn gryf iawn. Mae’r teulu cyfan wrth eu boddau bod Jack wedi ennill gwobr ci’r flwyddyn.”