Ymladd y tanau ar Fannau Brycheiniog ddoe
Mae dros 2,000 o erwau o rostir a mawnogydd wedi cael eu dinistrio yn y tanau gwaethaf ym Mannau Brycheiniog ers dros 30 mlynedd.

Am dri diwrnod, mae wardeiniaid y Parc Cenedlaethol a’r gwasanaethau tân wedi bod yn brwydro i ddiffodd y tanau rhwng Trapp, Brynaman a Llandeilo, yn ôl llefarydd ar ran Awdurdod y Parc.

Gofynnwyd am gefnogaeth gan y fyddin neithiwr, ar ôl i’r gwynt droi gan waethygu’r sefyllfa.

Er nad yw’r tanau dan reolaeth lwyr, mae’r sefyllfa wedi gwella erbyn hyn ac mae wardeiniaid yn obeithiol y bydd y sefyllfa – gyda chymorth y gwasanaethau tân a’r fyddin dan reolaeth erbyn heno.

Yn ôl Judith Harvey o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r tân wedi dinistrio mawnogydd yn un o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig pwysicaf y Parc, er nad oes unrhyw adeiladau wedi bod o dan fygythiad.

Fe fydd wardeiniaid y parc yn parhau i gyhoeddi rhybuddion am y tân yn yr wythnosau nesaf ac yn gofyn i bobl aros yn wyliadwrus yn ystod tywydd poeth.