Nifer y seddi
Llafur 30 (+4)
Ceidwadwyr 14 (+2)
Plaid Cymru 11 (-4)
Democratiaid Rhyddfrydol 5 (-1)

2.25pm: Dyna ni am ganlyniadau’r etholiad felly. Bydd y trafod yn parhau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Beth aeth o’i le i Blaid Cymru a’r Dems Rhydd? Beth aeth yn iawn i’r Ceidwadwyr a Llafur? Pwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr? A fydd arweinydd newydd ar Blaid Cymru?

Dilynwch Golwg 360 dros yr wythnosau nesaf i gael yr atebion.

2.05pm: Mae’r Blaid Lafur wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i fwrw ymlaen a ffurfio llywodreath. Pwy fydd yn gwneud cyn-swyddi gweinidogion Plaid Cymru? Alun Davies – Gweinidog Treftadaeth? Huw Lewis – Trafnidiaeth a’r economi? Anodd meddwl pwy fydd y gweinidog amaeth, wedi i Christine Gwyther fethu ag ennill Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Carwyn Jones yn gwneud dwy swydd?

2.02pm: Os fydd Plaid Cymru yn penderfynu newid arweinydd, pwy all gymryd lle Ieuan Wyn Jones? Alun Ffred Jones? Elin Jones? Beth am Leanne Wood?

1.51pm: Mae’r system d’Hont wedi trin Plaid Cymru ychydig yn fwy llym . Maen nhw wedi colli dwy sedd, un ar restr rhanbarthol Gorllewin De Cymru, a Gogledd Cymru, o ychydig bleidleisiau.

1.49pm: Y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud yn well na’r disgwyl, a hynny o sawl trwch blewyn mewn sawl rhestr rhanbarthol. Fe fyddwn nhw’n hapus gyda 5 sedd ar ôl y chwalfa yn eu pleidlais.

1.47pm: Rhestr y gogs yn llawn. Tri enw newydd.

Ceidwadwyr Mark Isherwood
Ceidwadwyr Antoinette Sandbach
Plaid Cymru Llyr Huws Gruffydd
Dems Rhydd Aled Roberts

1.46pm: Plaid Cymru wedi colli tair sedd ar draws Cymru o 150 o bleidleisiau, meddai AC newydd y blaid Llyr Hughes Griffiths.

1.43pm: Druan ar Nick Bourne.

1.34pm: Y sgôr terfynol – Llafur ar 30, y Ceidwadwyr ar 14, Plaid Cymru ar 11, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5.

1.33pm: Disgwyl y cyhoeddiad am restr rhanbarthol y gogledd. Disgwyl i’r Ceidwadwyr gael dwy sedd, Plaid Cymru un, a’r Dems Rhydd un.

Ychydig o siom i Blaid Cymru oedd wedi gobeithio am sedd rhanbarthol arall ar ôl colli Aberconwy.

1.32pm: Canlyniad De Clwyd:

Llafur – Ken Skates 8,500
Ceidwadwyr – Paul Rogers 5,841
Plaid Cymru – Mabon ap Gwynfor 3,719
Democratiaid Rhyddfrydol – Bruce Roberts 1,977

1.31pm: Canlyniad Delyn:

Llafur – Sandy Mewies 10,695
Ceidwadwyr – Matt Wright 7,814
Plaid Cymru – Carrie Harper 2,918
Democratiaid Rhyddfrydol – Michele Jones 1,767

1.28pm: Llafur yn cadw Delyn a De Clwyd.

1.27pm: Dau ganlyniad ar ôl.  Delyn a De Clwyd.

1.23pm: Canlyniad Alun a Glannau Dyfrdwy

Llafur – Carl Sargeant 11,978
Ceidwadwyr – John Bell 6,397
Democratiaid Rhyddfrydol – Pete Williams 1,725
Plaid Cymru – Shane Brennan 1,710
BNP – Michael Whitby 959

1.22pm: Canlyniad Wrecsam:

Llafur – Lesley Griffiths 8,368
Ceidwadwyr – John Marek 5,031
Democratiaid Rhyddfrydol – Bill Brereton 2,692
Plaid Cymru – Marc Jones 2,569

1.18pm: Llafur yn cadw Alun a Glannau Dyfryndwy, a Wrecsam. Dim ond seddi saff Llafur ar ôl nawr.

1.07pm: Canlyniad Ynys Môn:

Plaid Cymru – Ieuan Wyn Jones 9,969
Ceidwadwyr – Paul Williams 7,032
Llafur – Joe Lock 6,307
Democratiaid Rhyddfrydol – Rhys Taylor 759

1.03pm: Sôn am Ieuan Wyn Jones… mae o wedi cadw ei sedd yn Ynys Môn.

1.02pm: Wedi noson, a bore, siomedig i Blaid Cymru, mae sawl un nawr yn trafod dyfodol yr arweinydd Ieuan Wyn Jones. Wrth drafod y mater ar Radio Cymru, dywedodd AC Arfon, Alun Ffred Jones, beth bynnag y camau nesaf, “nid wyf yn argymell cyri,” – gan gyfeirio at gyfarfod rhwng rhai ACau Plaid Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, oedd wedi cwrdd, mae’n debyg, i gael cyri – tra bod eraill yn honni mai cwrdd i geisio gwthio Ieuan Wyn Jones o’r arweinyddiaeth yr oedden nhw.

12.58pm: Mae David Cameron wedi llongyfarch arweinydd yr SNP, Alex Salmond, ar ei “fuddugoliaeth fawr”. A fydd o’n llongyfarch Carwyn Jones hefyd?

12.54pm: Canlyniad Aberconwy:

Ceidwadwyr – Janet Finch-Saunders 6,888
Plaid Cymru – Iwan Huws 5,321
Llafur – Eifion Williams 5,206
Democratiaid Rhyddfrydol – Mike Priestly 2,873

12.53pm: Y Ceidwadwyr yn cipio Aberconwy oddi ar Blaid Cymru.

12.52pm: Arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig… mae’r sion yn cynyddu am bwy fydd yn cystadlu – mae enw Darren Millar eisioes wedi ei grybwyll, ac mae’n debyg nad yw ymgeisydd Aberconwy wedi gwadu’r posibilrwydd o sefyll am arweinydd chwaith, gyda rhai eraill yn son am Andrew RT Davies. Ond un sydd wedi dweud na fydd yn sefyll yw’r AC David Melding – sy’n rhybuddio bod angen i’w blaid ei “chymryd hi’n araf a gwneud hyn yn iawn.”

12.50pm: Os yw Aberconwy yn mynd i’r Ceidwadwyr, dylai canlyniadau’r seddi eraill fod yn weddol hawdd i’w rhagweld.

Ynys Môn yn saff i Ieuan Wyn Jones, y gweddill i Lafur.

Yr unig gwestiwn ar ôl yw pwy fydd yn cael beth ar y rhestr rhanbarthol.

12.46pm: Richard Wyn Jones yn dweud y bydd y Blaid Lafur yn ei chael hi’n anodd llywodraethu ar 30 sedd.

Dweud fod angen ‘cwest’ ar Blaid Cymru, a fod angen gwneud hynny y tu allan i lywodreath.

12.44pm: Aberconwy – Ceidwadwyr yn gyntaf, Plaid Lafur yn ail, Plaid Cymru yn drydydd. Meddai ffynhonell o fewn y Blaid wrth Golwg 360.

12.43pm: Mae’r rhithfro wedi dechrau’r post-mortem ar Blaid Cymru yn barod.

12.41pm: Canlyniadau Caerdydd yn llawn ar wefan y cyngor fan hyn.

12.38pm: Yr AS Hywel Williams yn amddiffyn Ieuan Wyn Jones. “Rydyn ni i gyd yn gyfrifol,” meddai. “Mae o wedi cyflawni llawer ac mae ganddo lawer iawn i’w gyflawni eto dw i’n siwr.”

12.35pm: Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddim yn fodlon dweud wrth S4C y byddai yn derbyn cynnig i fod yn Lywydd y Cynulliad unwaith eto.

12.34pm: Canlyniad Gorllewin Clwyd:

Ceidwadwyr – Darren Millar 10,890
Llafur – Crispin Jones 6,642
Plaid Cymru – Eifion Lloyd Jones 5,775
Democratiaid Rhyddfrydol – Brian Cossey 1,846

12.31pm: Y blog wedi mynd braidd yn rhy hir ac achosi problemau ar gyfrifiaduron rhai, felly rydw i wedi cwtogi ei gwt. Fe wna i geisio adfer y gweddill yn ddiweddarach.

12.25pm: Os ydi Llafur yn ennill Aberconwy gallai UKIP gael sedd ranbarthol, ebe Richard Wyn Jones ar S4C. Ond awgrymiadau cryf mai y Ceidwadwyr aiff a hi yn ein cyrraedd ni.

12.24pm: Canlyniad Arfon:

Plaid Cymru – Alun Ffred Jones 10,024
Llafur – Christina Rees 4,630
Ceidwadwyr – Aled Davies 2,209
Democratiaid Rhyddfrydol – Rhys Jones 801

12.21pm: Canlyniad tebygol Aberconwy a canlyniad Gorllewin Clwyd yn golygu y byddai’r Blaid Lafur yn sownd ar 30 sedd, un yn fyr o fwyafrif.

12.20pm: Aberconwy wedi mynd i’r Ceidwadwyr mae’n debyg. Dwy sedd i Blaid Cymru ar y rhestr rhanbarthol yn debygol.

12.19pm: Alun Ffred Jones wedi cadw Arfon.

12.18pm: Darren Millar wedi ennill yng Ngorllewin Clwyd. Arweinydd newydd y Ceidwadwyr?

12.16pm: Mae’n debyg fod y Ceidwadwyr ar y blaen yn y pleidleisiau rhanbarthol yn Aberconwy. Plaid yn ail a Llafur yn drydydd.

12.14pm: Llafur ar y blaen yn Wrecsam a De Clwyd.

12.11pm: Y Ceidwadwyr wedi cipio Aberconwy a chadw Gorllewin Clwyd? Fe allai hynny olygu fod Llafur yn gaeth ar 30 sedd.

Guto Bebb yn dweud fod y Ceidwadwyr wedi gwneud yn dda yn y pleidleisiau post yn Aberconwy. Llafur ar y blaen yn y blychau pleidleisio?

12.08pm: Vaughan Roderick ar S4C yn dweud nad oedd Peter Black ei hun yn credu fod ganddo obaith caneri o ddychwelyd i restr rhanbarthol Gorllewin De Cymru. Dim ond ryw 50 pleidlais ynddi mae’n debyg.

12.06pm: Canlyniad Dyffryn Clwyd:

Ann Jones Llafur 11,691
Ian Gunning Ceidwadol 7,680
Alun Lloyd Jones Plaid Cymru 2,597
Heather Alison Prydderch Dems Rhydd 1,088

12.03pm: Canlyniad Dyffryn Clwyd – Ann Jones y Blaid Lafur yn cadw’r sedd.

12.01pm: Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi bod yn talu teyrnged i gyn-arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Nick Bourne, a gollodd ei sedd neithiwr.

“Roedd ei arweinyddiaeth, ei weledigaeth, a’i ddewrder yn ganolog i lwyddiant y blaid dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Mae ein cyfeillgarwch yn bwysig i mi ac rydw i wedi mwynhau gweithio â Nick Bourne er mwyn symud y Blaid Geidwadol yn ei flaen yng Nghymru.”

Un cwestiwn diddorol yw pam na adawodd Nick Bourne y rhestr ranbarthol ac ymgeisio am sedd. e.e Sir Drefaldwyn? Mae’n awgrymu nad oedd ganddo hyder yng ngallu ei blaid ei hun.

11.51am: Mae Cynulliad Stormont Gogledd Iwerddon hefyd wedi dechrau cyfri’ heddiw. Fe fyddwn nhw’n cyhoeddi’r canlyniadau yfory.

11.48am: Roedd y Gwyrddion ac UKIP wedi gobeithio am seddi ar y rhestrau rhanbarthol yn y de, ond ddigwyddodd o ddim. Efallai fod yna obaith i UKIP yn y gogledd.

11.47am: Os nad oeddech chi’n gwrando, doedd yna ddim ryw lawer o archwaeth am ail glymblaid gyda Llafur ymysg gwleidyddion Plaid Cymru ddoe. Rhodri Glyn Thomas AC a Jonathan Edwards AS yn dweud nad oes gan y Blaid Lafur ddim i’w gynnig iddyn nhw.

11.46am: Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn bwriadu ceisio llywodraethu heb glymbleidio os ydyn nhw’n ennill 30 sedd.

11.44am: Andy Burnham o’r Blaid Lafur yn dweud wrth Sky News fod Llafur wedi elwa o chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Lloegr, ond fod eu pleidlais yn yr Alban wedi mynd i’r SNP.

11.42am: Y diweddaraf o’r gogledd yw bod Plaid Cymru yn debygol o gadw Ynys Môn, a’r Blaid Lafur yn debygol o gadw Alun a Glannau Dyfrdwy.

11.40am: Yn ogystal â holl ganlyniadau’r gogledd fe fydd canlyniadau’r refferendwm ar newid y system bleidleisio ar eich cyfer chi prynhawn yma.

Un awgrym diddorol gan sylwebwyr S4C neithiwr oedd bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn annoeth i gynnal refferendwm ar newid y system bleidleisio mor gynnar yn nhymor y Senedd. Fe ddylen nhw fod wedi disgwyl nes y diwedd, pan oedd pethau wedi gwella’n economaidd a phobol yn ragor parod i ganmol  eu penderfyniad i glymbleidio â’r Ceidwadwyr.

11.36am: Bydd Ieuan Wyn Jones yn siŵr o gael y bai am gwymp Plaid Cymru eleni, ond a yw hynny’n deg mewn gwirionedd? Efallai mai’r unig wahaniaeth o bwys rhwng yr etholiad eleni a 2007 oedd bod y Blaid Lafur yn amhoblogaidd bryd hynny, ond yn boblogaidd nawr.

Efallai bod ymgyrch Plaid Cymru yn ddi-flach – ond roedd hynny’n  wir am yr ymgyrch etholiadol yn ei gyfanrwydd.

Bydd pobol yn cymharu Plaid Cymru â’r SNP ond y gwirionedd yw bod yr Alban deg mlynedd ar y blaen i Gymru o ran datganoli. Mae’r SNP wedi cael y cyfle i lywodraethu ar eu pennau eu hunain a dangos eu bod nhw’n ddibynadwy. Efallai y bydd rhaid i Blaid Cymru ddisgwyl degawd arall, nes bod y Blaid Lafur yn amhoblogaidd unwaith eto, cyn cael yr un cyfle.

Beth ydych chi yn ei feddwl?

11.20am: Mae Carwyn Tywyn, cyn-ohebydd Cynulliad cylchgrawn Golwg, yn cadw llygad ar Ynys Môn:

“Does gen i ddim tystiolaeth o gwbl o’r cyfri, ond mae rhesymeg mathemategol yn awgrymmu bod yn rhaid ystyried Ynys Môn fel ‘sedd i’w gwylio’. (Llafur yn tynnu peth cefnogaeth oddi wrth IWJ gan adael y Ceidwadwyr i mewn o drwch blewyn). Bydd yn rhaid i IWJ pwyso’n helaeth ar ei record bersonol ers 1987.”

11.18am: Yn ôl Alan Cochrane o’r Telegraph, mae buddugoliaeth Alex Salmond yn yr Alban yn fwy rhyfeddol na buddugoliaeth Tony Blair yn etholiad 1997.

11.09am: Y Ceidwadwyr yn ‘ffyddiog’ yn Aberconwy. Plaid Cymru yn 3ydd?

11.08am: Gan Gyngor Gwynedd ar Twitter- Etholaeth Arfon: 43.38% wedi bwrw eu pleidlais.

11.07am: Mae Nick Clegg wedi cyfaddef fod ei blaid wedi dioddef ‘sawl ergyd drom’ dros nos, a’u bod nhw’n cael y bai am doriadau Llywodraeth San Steffan.

“Mae’r teuluoedd yn y rhannau yna o’r wlad yn cofio sut oedd pethau dan Thatcher ac yn ofni ein bod ni’n dychwelyd i’r un peth,” meddai.

“Rhaid i ni godi oddi ar yn llawr a bwrw ymlaen â’r gwaith.”

Dyma oedd perfformiad gwaethaf y blaid ers 30 mlynedd.

11.00am: Mae’r blog yma wedi bod yn mynd am 24 awr erbyn hyn. Os yw gogledd Cymru yn cyfri ar yr un cyflymder a Chaerdydd neithiwr, fe fyddwn ni yma am 24 awr arall.

10.58am: Os ydi Plaid Cymru yn colli Aberconwy fe fyddwn nhw wedi colli pedair sedd, gan syrthio o 15 sedd i 11. Wrth gwrs fe allen nhw adennill un sedd ar restr ranbarthol Gogledd Cymru.

Roedd geiriau chwyrn iawn gan Rhodri Glyn Thomas, Jonathan Edwards a Ron Davies ynglŷn ag ymgyrch Plaid Cymru dros nos, ac awgrymiadau fod Dafydd Wigley ac eraill yn anhapus.

Mae Ieuan Wyn Jones yn ffyddiog o gadw ei sedd heddiw. Ond a fydd yn cadw arweinyddiaeth y blaid?

10.52am: Si ar Twitter fod Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi deffro’n gynnar bore ma a darllen ei fod wedi colli ei sedd ar y safle rhyngweithio cymdeithasol.

10.48am: Diolch i amharodrwydd swyddogion adroddol Gogledd Cymru i gyfri ar y noson, y diogynnod, mae gennym ni ddiweddglo cyffrous i’r etholiad ar eich cyfer chi. Efallai y dylen nhw wneud hyn bob blwyddyn.

Mae disgwyl i Aberconwy fod yn agos iawn. Er bod sôn fod cefnogaeth y Ceidwadwyr yn drai, mae Llafur a Phlaid Cymru yn dal eu tir. Mae yna lawer o amser ac egni wedi ei fuddsoddi yn yr etholaeth gan y dair blaid.

Mae’r Ceidwadwyr angen swing o 4.1% i gipio. Mae Llafur angen swingo o 8.4% i’w chipio.

9.55am: Beth sydd angen i’r Blaid Lafur ei wneud yng Ngogledd Cymru heddiw er mwyn cyrraedd y 31 sedd hollbwysig a sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad?

Mae ganddyn nhw 25 sedd hyd yn hyn.

Yn 2007 fe enillon nhw bump sedd yn rhanbarth gogledd Cymru. Doedd ganddyn nhw ddim ACau ar y rhestr rhanbarthol.

Felly, gan gymryd eu bod nhw’n cadw y seddi wnaethon nhw eu hennill yn 2007, mae angen iddyn nhw ennill un sedd arall o rywle.

Y targedau amlwg yw Gorllewin Clwyd ac Aberconwy. Mae’n mynd i fod yn dynn!

9.50am: Mae mathamategwyr Canol De Cymru wedi gwneud eu syms d’Hont-aidd a phenderfynu ar yr ACau fydd yn cynrychioli’r rhanbarth.

Mae yna ddau Geidwadwr, Andrew RT Davies a David Melding, un AC Plaid Cymru, Leanne Wood, ac un AC i’r Dems Rhydd, John Dixon.

Yn 2007 roedd gan Plaid Cymru AC arall ar y rhestr rhanbarthol, sef Chris Franks.

9.43am: Oes gan Lywodreath San Steffan fandad i lywodreathu dros yr Alban? Bydd gan y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd gyda’i gilydd lai nag 20 o’r 120 sedd yn y Senedd. Bydd plaid wleidyddol â mwyafrif yno sydd ddim yn bodoli y tu allan i’r wlad.

Mae Alex Salmond yn bwriadu cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2014 a bydd y cwestiynau yma yn cael eu trafod hyd syrffed mae’n siwr.

9.25am: Oes unrhyw un wedi bod i fyny drwy’r nos ac yn bwriadu aros i fyny nes fod canlyniadau’r gogledd i mewn? Gadewch sylw isod. Rhaid cyfaddef mod i wedi cael hanner awr o gwsg wrth ddisgwyl canlyniadau Caerdydd!

9.06am: Mae’n debyg fod yr arbenigwyr gwleidyddol yn darogan 68 sedd i’r SNP, 38 i’r Blaid Lafur, 13 i’r Ceidwadwyr, chwech i’r Dems Rhydd, a tair i’r Gwyrddion. Un i’r ‘Lleill’.

Dyna fyddai canlyniad gwaethaf y Blaid Lafur yn yr Alban ers 1931.

9.02am: Y diweddaraf o’r Alban ydi fod yr SNP ar 47 a Llafur ar 20 sedd. Y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr i ddwy sedd. Maen nhw’n parhau i gyfri felly fe allai pethau newid eto. Bydd Llafur yn debygol o ail-ennill rywfaint o’u seddi ar y rhestrau rhanbarthol.

8.57am: Peter Black yn synnu ac yn falch ei fod wedi cadw ei sedd ar restr rhanbarthol Gorllewin De Cymru.

8.53am: Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynd i’r cyfeiriad arall yn llwyr – mae gan pob un o’r prif bleidiau gynrychiolaeth yno.

8.50am: Llafur wedi cymryd rheolaeth lwyr dros ranbarthau de Cymru. Mae’n fôr o goch. Dim ond Mynwy sy’n las o hyd.

8.48am: Ar hyn o bryd mae’r Blaid Lafur lan pedair sedd, y Ceidwadwyr wedi aros yn yr unfan, Plaid Cymru i lawr dwy sedd, y Dems Rhydd i lawr un sedd, ac un sedd annibynol (Blaenau Gwent) wedi mynd.

8.40am: Mae disgwyl canlyniad rhanbarth Canol De Cymru tua 9am. Dyna fydd y canlyniad olaf o ganolbarth a de Cymru ac wedyn fe allwn ni droi ein golygon tua’r gogledd.

8.34am: Canlyniad Canol Caerdydd:

Llafur – Jenny Rathbone 8,954
Democratiaid Rhyddfrydol – Nigel Howells 8,916
Ceidwadwyr – Matt Smith 3,559
Plaid Cymru – Chris Williams 1,690
Annibynol – Mathab Khan 509

8.31am: Canlyniad Gogledd Caerdydd:

Llafur – Julie Morgan 16,384
Ceidwadwyr – Jonathan Morgan 14,602
Plaid Cymru – Ben Foday 1,850
Democratiaid Rhyddfrydol – Matt Smith 1,595

8.29am: Bydd rhanbarth Gogledd Cymru yn ddechrau cyfri mewn ryw hanner awr. Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf tua hanner dydd.

8.28am: Yn rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae gan y Ceidwadwyr ddau AC, William Graham a Mohammad Asghar, a Plaid Cymru ddwy AC, Jocelyn Davies a Lindsay Whittle.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill sedd ar 2007 a’r Dems Rhydd wedi colli un, sef sedd Veronica German.

8.26am: Fel y disgwyl, mae llwyddiant ei blaid yn Sir Drefaldwyn yn golygu fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi colli ei sedd rhanbarthol.

Mae dau AC Llafur, Joyce Watson a Rebecca Evans, un Dem Rhydd, William Powell, ac un AC Plaid Cymru, Simon Thomas, wedi eu hethol.

Yn 2007 roedd ddau AC Llafur, Alun Davies a Joyce Watson, un AC Plaid, Nerys Evans, ac un AC Ceidwadol, Nick Bourne.

8.21am: Yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, mae’r Ceidwadwyr wedi cael dau AC, Plaid un, a’r Dems Rhydd un.

Sef (Ceidwadwyr) Suzy Davies, Byron Davies, (Plaid) Bethan Jenkins a (Dems Rhydd) Peter Black.

Yn 2007 roedd dau AC Plaid Cymru, un Ceidwadwr ac un Dem Rhydd.

Dr Dai Lloyd sy’n colli ei sedd. Mae’r ddwy AC Ceidwadwol yn newydd ar ôl i Alun Cairns adael am San Steffan.

8.15am: Y prif ddatblygiad wrth i’r blog gysgu yw bod Llafur wedi cipio Gogledd Caerdydd o’r Ceidwadwyr a Chanol Caerdydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Julie Morgan, gwraig y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan, yw AC newydd y sedd gyntaf a Jenny Rathbone sydd wedi bachu’r ail.

8.11am: Canlyniad Gorllewin Caerdydd:

Llafur – Mark Drakeford 13,067
Ceidwadwyr – Craig Williams 7,166
Plaid Cymru – Neil McEvoy 5,551
Democratiaid Rhyddfrydol – David Morgan 1,942

8.10am: Canlyniad De Caerdydd a Phenarth:

Llafur – Vaughan Gething 13,814
Ceidwadwyr – Ben Gray 7,555
Plaid Cymru – Liz Musa 3,324
Democratiaid Rhyddfrydol – Sian Cliff 2,786

5.35am: Bydd y blog yma yn cael hoe o’r diweddaru cyson nawr er mwyn paratoi ar gyfer y canlyniadau yfory. Fe fydd diweddariad am seddi Caerdydd, gan gynnwys seddi agos Canol a Gogledd Caerdydd, yn yr oriau nesaf.

Hyd yn hyn mae wedi bod yn noson dda i’r Blaid Lafur, a noson weddol dda i’r Ceidwadwyr sydd wedi cipio Sir Drefaldwyn a chadw Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Ond mae wedi bod yn noson ddrwg i Blaid Cymru sydd wedi colli Llanelli, a noson ddrwg iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi colli Sir Drefaldwyn a gweld cwymp sylweddol yn eu pleidlais yn y de. Mae hynny’n debygol o olygu y byddwn nhw’n colli seddi ar y rhestrau.

5.24am: Mae’n debyg fod Canol Caerdydd yn parhau yn agos, ond mae gan Llafur fwyafrif clir yng Nghorllewin y brifddinas, sef hen sedd Rhodri Morgan.

5.17am: Carwyn Jones yn fwy hyderus am fwyafrif i’r Blaid Lafur nag yr oedd ychydig oriau yn ôl, meddai.

5.16am: Canlyniad Gŵyr:

Llafur – Edwina Hart 12,866
Ceidwadwyr – Caroline Jones 8,002
Plaid Cymru – Darren Price 3,249
Democratiaid Rhyddfrydol – Peter May 2,656

5.15am: Edwina Hart Llafur yn cadw Penrhyn Gŵyr.

5.14am: Canlyniad Bro Morgannwg:

Llafur – Jane Hutt 15,746
Ceidwadwyr – Angela Jones-Evans 11,971
Plaid Cymru – Ian James Johnson 4,024
Democratiaid Rhyddfrydol – Damian Chick 1,513

5.13am: Canlyniad Preseli Penfro:

Ceidwadwyr – Paul Davies 11,541
Llafur – Terry Mills 9,366
Plaid Cymru – Rhys Sinnett 4,226
Democratiaid Rhyddfrydol – Bob Kilminster 2,085

5.10am: Llafur yn cadw Bro Morgannwg.

5.08am: Canlyniad Mynwy:

Ceidwadwyr – Nick Ramsay 15,087
Llafur – Mark Whitcutt 8,970
Democratiaid Rhyddfrydol – Janet Ellard 2,937
Plaid Cymru – Fiona Cross 2,263
Y Democratiaid Seisnig – Steve Uncles 744

5.06am: Mae Alex Salmond wedi bod yn siarad â Sky News am fuddugoliaeth amlwg yr SNP yn yr Alban. Dywedodd fod y bai ar Ed Miliband am broblemau Llafur, a bod y blaid ar y blaen yn y polau piniwn cyn i arweinydd Llafur ymweld â’r Alban.

5.03am: Canlyniad Torfaen:

Llafur – Lynne Neagle 10,318
Annibynnol – Elizabeth Haynes 4,230
Ceidwadwyr – Natasha Asghar 3,306
Plaid Cymru – Jeff Rees 2,716
BNP – Susan Harwood 906
Democratiaid Rhyddfrydol – Will Griffiths 852

5.02am: Os ydi Jonathan Morgan yn cadw ei sedd yng Ngogledd Caerdydd fe fydd yn un o’r ffefrynnau i olynu Nick Bourne yn arweinydd y Ceidwadwyr.

5.01am: Vaughan Roderick yn rhagweld 32 o seddi i’r Blaid Lafur, Richard Wyn Jones yn rhagweld 30 sedd.

5am: Canlyniad y Rhondda:

Llafur – Leighton Andrews 12,650
Plaid Cymru – Sera Evans-Fear 5,911
Democratiaid Rhyddfrydol – George Summers 969
Ceidwadwyr – James Jeffreys 497

4.55am: Canlyniad Dwyfor Meirionydd:

Plaid Cymru – Dafydd Elis-Thomas 9,656
Ceidwadwyr – Simon Baynes 4,235
Llafur – Martyn Singleton 2,623
Llais Gwynedd – Louise Hughes 3,229
Democratiaid Rhyddfrydol – Steve Churchman 1,000

4.54am: Canlyniad Pen-y-bont ar Ogwr:

Llafur – Carwyn Jones 13,499
Ceidwadwyr – Alex Williams 6,724
Plaid Cymru – Tim Thomas 2,076
Democratiaid Rhyddfrydol – Briony Davies 1,736

4.52am: Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi ei ail-ethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

4.51am: Mae Alex Salmond, arweinydd yr SNP yn yr Alban, wedi dweud ei fod yn noson “hanesyddol” i’w blaid. Maen nhw wedi cipio sawl sedd oddi ar y Blaid Lafur.

4.50pm: Canlyniad Gorllewin Abertawe:

Ceidwadwyr – Steve Jenkins 5,231
Llafur – Julie James 9,885
Democratiaid Rhyddfrydol – Rob Speht 3,654
Plaid Cymru – Carl Harris 3,035

4.49am: Helen Mary Jones yn dweud fod Llafur “wedi llwyddo i droi’r etholiad yn refferendwm ar beth mae’r Ceidwadwyr yn ei wneud yn San Steffan”.

“Mae’n siomedig i ni,” meddai, “Rhaid i ni ddysgu gwersi yn lleol ac yn genedlaethol.”

4.46am: Buddugoliaeth mawr i’r Ceidwadwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro – ond efallai y bydd angen arweinydd newydd ar y blaid.

4.45am: Canlyniad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

Ceidwadwyr – Angela Burns 10,095
Llafur – Christine Gwyther 8,591
Plaid Cymru – Nerys Evans 8,373
Democratiaid Rhyddfrydol – Selwyn Runnett 1,097

4.45am: Canlyniad Caerffili

Llafur – Jeff Cuthbert 12,521
Plaid Cymru – Ron Davies 7,597
Ceidwadwyr – Owen Meredith 3,368
BNP 1,022
Democratiaid Rhyddfrydol – Kay David 1,062

4.43am: Gambl Nerys Evans o adael y rhestr rhanbarthol wedi methu, felly.

4.42am: Canlyniad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro – Angela Burns y Ceidwadwyr yn cadw’r sedd! Christine Gwyther Llafur yn ail a Nerys Evans Plaid Cymru yn drydydd.

4.38am: Y Ceidwadwyr wedi cadw gafael ar sedd De Penfro? Mae hynny’n awgrymu y bydd arweinydd y blaid, Nick Bourne, yn colli ei sedd ar y rhestr rhanbarthol.

4.36am: Llafur yn cadw y Rhondda.

4.35am: Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn cadw sedd Dwyfor Meirionydd.

4.34am: 51% wedi pleidleisio yn Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr – yr uchaf hyd yma. Rhodri Glyn Thomas wedi colli 9% o’i bleidlais.

4.33am: Llafur yn cadw Caerffili. 12,521 pleidlais i 7,597 Ron Davies Plaid Cymru.

4.31am: Canlyniad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

Plaid Cymru – Rhodri Glyn Thomas 12,501
Llafur – Anthony Jones 8,353
Ceidwadwyr – Henrietta Hensher 5,635
Democratiaid Rhyddfrydol – Will Griffiths 1,339

4.30am: Rhodri Glyn Thomas yn canmol gweithwyr y cyngor am aros i fyny trwy’r nos yn cyfri tra bod gweithwyr y gogledd yn diogi yn eu gwlau.

4.29am: Canlyniad Sir Gaerfyrddin – Rhodri Glyn Thomas, o Blaid Cymru, yn cadw’r sedd gyda 12,501 pleidlais.

4.26am: Disgwyl i Vaughan Gething ennill De Caerdydd a Phenarth yn gyfforddus – gan gadw’r sedd i’r blaid am y pedwerydd tro ers 1999, a chymryd yr awennau gan Lorraine Barrett, sy’n sefyll i lawr eleni. AC cyntaf Llafur o leafrif ethnig.

4.23am: Rhodri Glyn Thomas yn edrych yn hapus iawn wrth gael gwybod canlyniad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

4.21am: Canlyniad Ogwr

Plaid Cymru – Danny Clark 3,379
Democratiaid Rhyddfrydol – Gerald Francis 985
Llafur – Janice Gregory 12,955
Ceidwadwyr – Martyn Hughes 2,945

4.20am: Matt Withers o’r Western Mail yn cyhuddo swyddog adroddol Ogwr o ‘ymosodiad ofnadwy ar yr iaith Gymraeg’.

4.18am: Roedd Lembit Opik, cyn AS Sir Drefaldwyn, i fod i gymryd rhan yn rhaglen etholiadol y BBC. Ond methodd a chyraedd ar ôl i’w gar gael pynjar. Dywedodd fod hyn yn drosiad am beth oedd wedi digwydd i’w blaid heno.

4.17am: Dal i ddisgywl cyhoeddiadau o etholaethau Caerdydd. Llafur yn edrych yn debyg o gipio’r sedd gan y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd, ond yng Nghanol Caerdydd, mae’n debyg mai rhwybeth tebyg i Llanelli fydd hi – ond rhwng y Dems Rhyd a Llafur y tro hwn – gyda’r pentyrau yn edrych yn hynnod debyg.

4.14am: Yn ôl i’r digwyddiadau hanesyddol yn yr Alban, mae arweinydd y Blaid Lafur, Iain Gray, wedi cyfaddef eu bod nhw’n “ganlyniadau drwg iawn”.

Mae seddi ’saff’ Llafur yn syrthio fel dominos yno. Mae Alex Salmond, arweinydd yr SNP, newydd gael ei ail-ethol.

4.13am: Canlyniadau Brycheiniog a Sir Faesyfed:

Democratiaid Rhyddfrydol – Kirsty Williams 12,201
Ceidwadwyr – Chris Davies 9,444
Llafur – Christopher Lloyd 4,797
Plaid Cymru – Gary Price 1,906

4.12am: Kirsty William, arweinydd y Dems Rhydd, wedi cadw sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed.

4.10am: Glasgow Anniesland yn yr Alban yn ail gyfri ar ôl i’r SNP fynd ar y blaen o un pleidlais yn unig.

4.09am: Y Ceidwadwyr yn pryderu am Ogledd Caerdydd. Llafur yn ffyddiog yng Nghanol Caerdydd hefyd.

4.04am: Canlyniad Dwyrain Abertawe:

Ceidwadwyr – Daniel Boucher 2,754
Llafur – Mike Hedges 11,035
Plaid Cymru – Dic Jones 2,346
Democratiaid Rhyddfrydol – Sam Morrison 1,673
BNP – Sianed Joanne 1,102

4.03am: Canlyniad Castell-nedd:

Llafur – Gwenda Thomas 12,736
Plaid Cymru – Alun Llewelyn 6,346
Ceidwadwyr – Alex Powell 2,780
BNP – Michael green 1,004
Democratiaid Rhyddfrydol – Matthew McCarthy 983

4.02am: Canlyniad Gorllewin Casnewydd:

Llafur – Rosemary Butler 12,011
Ceidwadwyr – David Williams 7,792
Plaid Cymru – Lyndon Binding 1,626
Democratiaid Rhyddfrydol – Liz Newton 1,586

4.01am: Llafur yn cadw dwyrain Abertawe

3.59am: Llafur wedi cadw Castell-nedd

3.56am: Elin Jones yn dweud fod Plaid wedi ail-ennill hyder pobol Ceredigion ar ôl yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.

3.54am: Canlyniad Ceredigion:

Plaid Cymru – Elin Jones 12,020
Democratiaid Rhyddfrydol – Elizabeth Evans 10,243
Ceidwadwyr – Luke Evetts 2,755
Llafur – Richard Boudier 2,544
Y Blaid Werdd – Chris Simpson 1,514

3.50am: Elin Jones Plaid Cymru yn cadw Ceredigion. 12, 020 i 10,243 Elizabeth Evans y Democratiaid Rhyddfrydol. Llai o fwyafrif nag yn 2007.

3.49am: Rosemary Butler o’r Blaid Lafur wedi ei hail-ethol yng Ngorllewin Casnewydd.

3.46am: Canlyniad Pontypridd:

Llafur – Mick Antoniw 11,864
Democratiaid Rhyddfrydol – Mike Powell 4,170
Ceidwadwyr – Joel James 3,659
Plaid Cymru – Ioan Bellin 3,139
Annibynnol – Ken Owen 501

3.44am: Canlyniad Aberafan:

Llafur – David Rees 12,104
Plaid Cymru – Paul Nicholls-Jones 2,793
Ceidwadwyr – Tamojen Morgan 2,704
Dems Rhydd – Helen Ceri Clarke 1,278

3.43am: Vaughan Roderick ar S4C yn meddwl fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu sedd rhestr yn Nwyrain De Cymru. Plaid Cymru yn cymryd eu lle?

3.41am: Mae disgwyl y bydd Ceredigion yn cyhoeddi cyn bo hir.

3.40am: Dwyrain Casnewydd – Llafur yn cadw’r sedd. Un o dargedi’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond wedi dod yn drydydd.

Llafur – John Griffiths 9,988
Ceidwadwyr –Nick Webb 4,500
Democratiaid Rhyddfrydol – Ed Townsend 3,703
Plaid Cymru – Chris Paul 1,369

3.36am: Helen Mary Jones wedi dweud y bydd Plaid Cymru yn ôl yn Llanelli – ond efallai nad hi fydd yr ymgeisydd…

3.34am: Canlyniad Cwm Cynon:

Llafur – Christine Chapman 11,626
Plaid Cymru – Dafydd Trystan 5,111
Ceidwadwyr – Dan Saxton 1,531
Democratiaid Rhyddfrydol – Ian Walton 492

3.32am: Helen Mary Jones, yn ei haraith wedi’r canlyniad, yn dweud bod Plaid Cymru wedi gorfod “nofio yn erbyn y lli” yn Llanelli – wrth gyfeirio at ymgyrch Llafur yn yr etholaeth. Llawer yn teimlo bod y bleidlais i Sian Caiach wedi bod yn ergyd fawr iddyn nhw hefyd.

3.30am: Buddugoliaeth fawr i’r Ceidwadwyr yn Sir Drefaldwyn:

Ceidwadwyr – Russell George 10,026
Democratiaid Rhyddfrydol – Wyn Williams 7,702
Plaid Cymru – David Senior 6,596
Llafur – Nick Colbourne 6,069

3.29am: Llafur wedi cadw Cwm Cynon.

3.28am: Y Ceidwadwyr wedi cipio Sir Drefaldwyn. 10,026 i 7,702 i’r Dems Rhydd.

3.24am: Y llifdorau wedi agor nawr – Maldwyn ar y ffordd i ni.

3.18am: Canlyniad Merthyr Tudful:

Llafur – Huw Lewis 10,483
Tony Rogers – Annibynnol 3,432
Democratiaid Rhyddfrydol – Amy Kitcher 2,480
Plaid Cymru – Noel Turner 1,701
Ceidwadwyr – Chris O’Brien 1,224

3.16am: Ai Sian Caiach oedd y gwahaniaeth eleni? Roedd hi’n arfer bod yn aelod o Blaid Cymru.

Helen Mary Jones yn dweud eu bod nhw wedi “nofio yn erbyn y llanw”.