Ymchwiliodd yr RSPCA i bron i 30,000 o gwynion am greulondeb anifeiliaid yng Nghymru’r llynedd, cyhoeddwyd heddiw.

Roedd cynnydd o 10% mewn cwynion o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, meddai’r elusen. Cafodd 21,394 o anifeiliaid eu hachub, a 2,000 eu symud i gartrefi eraill.

Dywedodd yr elusen eu bod nhw wedi cynghori 15,020 o berchnogion am sut i wella amodau byw eu hanifeiliaid.

Yn Lloegr roedd yr RSPCA wedi ymchwilio i 130,000 o achosion o greulondeb at anifeiliaid.

“Nod yr RSPCA yw atal creulondeb at anifeiliaid cyn iddo ddigwydd,” meddai David Bowles o’r elusen.

“Roedd dros 90% o berchnogion anifeiliaid wedi penderfynu dilyn ein cyngor ac mae hynny’n llwyddiant mawr.”