Siambr y Cynulliad

Ifan Morgan Jones, Prif Is-olygydd Golwg 360, sy’n edrych ymlaen at Etholiadau’r Cynulliad yfory…

Gaiff Etholiad y Cynulliad rywfaint o sylw nawr? Rhwng tywydd braf gwyliau’r Pasg, y briodas frenhinol, a marwolaeth Osama bin Laden mi fyddai’n deg dweud bod yr etholiad wedi bod yn hedfan ‘dan y radar’. A dweud y gwir mae’n dipyn o sioc cael ein hunain llai na 24 awr cyn i’r blychau pleidleisio agor, gan deimlo nad ydi’r ymgyrch wedi dechrau’n iawn eto.

Serch hynny roedd arwyddion ddoe a heddiw fod pethau’n dechrau poethi, ac efallai wedi gorboethi a throi braidd yn gas. Honiadau o gymryd arwyddion yng Nghaerffili, honiadau o enllib ar daflenni yn Aberconwy, a nawr mae un o swyddfeydd Plaid Cymru wedi ei fandaleiddio. Efallai mai’r holl ymgyrchu yn y tywydd poeth sydd wedi mynd i’w pennau nhw, neu’r rhwystredigaeth o gnocio ar ddrysau a chanfod fod pawb ar eu gwyliau (sori Elin, o’n i yn Ffrainc).

Yr eironi ydi y gallai mwy o bobol bleidleisio yn yr etholiad yma nag erioed o’r blaen, a hynny oherwydd y bydd talp ychwanegol yn cymryd rhan yn y refferendwm ar y system bleidlais amgen. Mae hynny yn debygol o olygu y bydd lot o bobol sydd yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ond ddim yn Etholiadau’r Cynulliad yn taro pleidlais y tro yma. Ar ben hynny mae wedi bod yn ymgyrch ‘Brydeinig’ ar y cyfan – sylw mawr i’r toriadau yn San Steffan, dim cymaint i unrhyw beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ym Mae Caerdydd. Gallai hynny fod yn newyddion drwg i Blaid Cymru, ac yn dda i’r Ceidwadwyr.

Cysgod yr Enfys

Mae’r polau piniwn diweddaraf, a’r bwcis, bellach yn awgrymu na fydd y Blaid Lafur yn sicrhau mwyafrif. Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i Blaid Cymru ystyried unwaith eto a yw eisiau mynd i glymblaid enfys â’r pleidiau eraill. Ond mae yna un blaid arall allai wneud y penderfyniad yn haws – UKIP.

Un peth sydd heb ei drafod yn helaeth ond wedi ei grybwyll yn sgil pôl piniwn diweddaraf YouGov ydi y gallai UKIP ennill sedd ar y rhestr ranbarthol yfory. Hyd yma’r Gwyrddion yw’r blaid fach sydd wedi denu y rhan fwyaf o’r sylw, gan obeithio sicrhau eu Haelod Cynulliad cyntaf ym Mae Caerdydd.

Mae hynny’n annhebygol o effeithio ar allu’r gwrthbleidiau i ffurfio clymblaid enfys – mae’r Gwyrddion yn blaid digon parchus ac eisoes wedi dod i gytundeb â’r SNP yn yr Alban. Ond a fyddai’r enfys yn fodlon cynnwys aelod o UKIP? Byddai nifer o aelodau Plaid Cymru yn gallu stumogi’r Ceidwadwyr, ond ddim UKIP. Pe bai pethau’n dynn fe allai’r un aelod UKIP yna olygu’r gwahaniaeth rhwng pot o aur a chawod o law i’r enfys.

Mae digon o gwestiynau i’w hateb. Byddwn ni’n cynnal blog byw arall o nos yfory ymlaen, gyda’r holl newyddion o’r cyfri a’r canlyniadau, felly gobeithio wnewch chi ymuno â ni bryd hynny…