Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Ar y diwrnod olaf o ymgyrchu cyn Etholiadau’r Cynulliad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynnu mai nhw yw’r blaid allai adfer economi Cymru.

Wrth siarad yn Ynys Môn dywedodd Nick Bourne nad oedd y Blaid Lafur wedi llwyddo i fynd i’r afael â diffyg ffyniant economaidd y wlad ers cymryd grym yn 1999.

Fe fuodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymweld â busnes Cromar White Ltd ar yr ynys, sy’n darparu offer modelau rheilffordd.

Dywedodd y byddai’r Ceidwadwyr yn diddymu trethi ar gyfer busnesau bychan er mwyn annog twf economaidd yng Nghymru.

Ychwanegodd fod ffigyrau swyddogol yn dangos mai Gogledd Cymru oedd un o’r ardaloedd mwyaf tlawd ym Mhrydain.

“Ar ôl 12 mlynedd o gael ein harwain gan y Blaid Lafur, Cymru yw’r wlad dlotaf ym Mhrydain a dyw’r economi ddim ar ei orau.

“Mae gweinidogion y Blaid Lafur wedi camreoli ein heconomi, wedi mynd a ni i ddyled a bron a bod wedi gwneud y Deyrnas Unedig yn fethdalwr.

“Mae busnesau bychan yn hollbwysig os yw economi Cymru am ffynnu ac mae’n rhaid eu cefnogi nhw er mwyn creu swyddi newydd a hybu twf economaidd.

“Fe fyddai Ceidwadwyr Cymru yn dileu trethi ar fusnesau bychan er mwyn eu hannog nhw i dyfu a chreu swyddi newydd.”

Dywedodd Paul Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr ar Ynys Môn, fod 2,000 o swyddi wedi eu colli ar Ynys Môn dros y ddegawd ddiwethaf – “mae hynny gyfwerth â phoblogaeth Biwmares”.

“Mae Ieuan Wyn Jones [ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth] wedi bod yn Weinidog yr Economi ers pedair blynedd ond wedi methu a chefnogi busnesau bach, lleol ar Ynys Môn.

“Mae busnesau bychan yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn economi gwledig. Dim ond Ceidwadwyr Cymru sydd wedi addo cael gwared ar drethi busnesau bach.”