Mae ymchwilwyr y cyfrifiad wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cychwyn eu gwaith yng Nghymru yfory o dargedu’r cartrefi hynny sydd heb lenwi holiadur y cyfrifiad.

Bydd staff “diffyg cydymffurfio” y cyfrifiad yn cynnal cyfweliadau o dan rybudd â deiliaid cartrefi sydd yn parhau i wrthod llenwi eu holiadur ar gyfer y cyfrifiad.

Mae peidio â chael eich cynnwys yn y cyfrifiad yn drosedd o dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920, a gall pobl sy’n gwrthod gael eu herlyn, a chael cofnod troseddol a dirwy o hyd at £1,000, medden nhw.

Ers Diwrnod y Cyfrifiad ar 27 Mawrth, mae llythyrau a chardiau sy’n atgoffa pobl bod rhaid llenwi holiadur y cyfrifiad yn ôl y gyfraith wedi’u hanfon i gartrefi nad oes cofnod eu bod wedi anfon y ffurflen yn ôl.

Dylai’r ffurflen fod wedi’i llenwi a’i hanfon yn ôl ar 27 Mawrth neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Mae gweithlu o 29,000 o gasglwyr wedi bod yn ymweld â phobl i gynnig help a chymorth wrth lenwi’r holiadur ers 6 Ebrill ac wedi bod yn gadael cardiau atgoffa gyda manylion cyswllt arnynt os nad oedd neb gartref.

“Erbyn hyn rydym ar gam olaf ein gwaith dilynol ac mae angen i bobl ymateb yn syth er mwyn osgoi dirwy,” meddai Cyfarwyddwr y Cyfrifiad, Glen Watson.

“Deallwn fod pobl yn brysur ac efallai nad yw llenwi holiadur y cyfrifiad yn flaenoriaeth iddynt, ond rhaid mynd ati nawr.

“Os bydd pobl yn gwrthod llenwi eu ffurflen caiff ymchwiliad ffurfiol ei gynnal a gallant gael cyfweliad o dan rybudd er mwyn casglu tystiolaeth, a chaiff y dystiolaeth honno ei rhoi i Wasanaeth Erlyn y Goron. Gallai gwrandawiad llys, cofnod troseddol a dirwy o hyd at £1,000 ddilyn hynny.

“Mae’r cyfrifiad yn darparu gwybodaeth hanfodol sy’n helpu cynllunwyr i nodi’r angen am dai, ffyrdd, lleoedd mewn ysgol, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill at y dyfodol mewn cymunedau lleol. Mae hefyd yn rhoi darlun mwy clir o sut mae cymdeithas yn newid dros amser.

“Dyna pam mae angen i bawb gymryd rhan a pham mae llenwi’r holiadur yn ofyniad cyfreithiol. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar helpu pobl i lenwi eu ffurflen a’i hanfon yn ôl cyn gynted â phosibl. Erlyn yw’r dewis olaf un.”

Gellir anfon ffurflenni’r cyfrifiad yn ôl am ddim yn yr amlen a ddarparwyd neu ar lein ar wefan y cyfrifiad yn www.cyfrifiad.gov.uk