Ed Balls
Mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi addo y bydd ei blaid yn gwneud “popeth posib” er mwyn amddiffyn Cymru rhag effeithiau toriadau Llywodraeth San Steffan.

Roedd AS Morley ac Outwood yn ymgyrchu yng Nghaerdydd heddiw, llai na 48 awr cyn i’r blychau pleidleisio agor ddydd Iau.

Fe fu’n cyfarfod â siopwyr a gweithwyr mewn archfarchnad yn y brifddinas cyn ymweld â Companies House etholaeth Gogledd Caerdydd er mwyn trafod â gweithwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Mae Llafur Cymru wedi addo gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu ar effeithiau toriadau’r Ceidwadwyr,” meddai.

“Allen ni ddim smalio fod y cynulliad yn darian all amddiffyn Cymru gyfan rhag y toriadau i gyd, er enghraifft yr academi filwrol yn Sain Tathan a thrydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe.

“Mae Llafur Cymru eisoes wedi dangos bod pwy sy’n llywodraethu yn y Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Mynnodd mai’r Blaid Lafur oedd “llais Cymru ar adeg anodd” ac y dylai pleidleiswyr sicrhau mwyafrif i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae ein neges ni’n glir ddydd Iau: dim ond pleidlais o blaid Llafur all sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu sefyll cornel Cymru.

“Byddai pleidlais o blaid Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gadael y Ceidwadwyr drwy’r drws cefn.

“Edrychwch ar beth ddigwyddodd i Nick Clegg y llynedd. Y peth olaf y mae Cymru ei angen ydi Ceidwadwyr yn y Cynulliad hefyd.”