Nerys Evans
Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddwn nhw’n canolbwyntio ar eu haddewid i adfer economi Cymru ar drothwy Etholiadau’r Cynulliad.

Fe fydd y blaid yn treulio’r diwrnod yn amlinellu eu cynllun i greu 50,000 o swyddi newydd ledled Cymru drwy fuddsoddi mewn ysgolion, ysbytai ac isadeiledd Cymru.

Bore ma fe fuodd y Blaid yn lansio hysbyseb newydd sy’n addo ‘50,000 o swyddi ledled Cymru’. Fe fydd y fan sy’n cario’r hysbyseb yn teithio ledled Gymru heddiw.

Dywedodd Nerys Evans, ymgeisydd y blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, maen nhw oedd yr unig blaid oedd â chynllun i ail-adeiladu economi Cymru.

“Mae Cymru yn wynebu toriadau o 41% i’w gyllideb cyfalaf dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Nerys Evans.

“Y dewis yw eistedd yn ôl a derbyn y toriadau fel y mae Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau ei wneud.

“Neu barhau â’r gwaith a dod o hyd i ffordd amgen o greu miloedd o swyddi newydd a thyfu’r economi dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd y Blaid Lafur yn hapus i rwgnach am Lywodraeth San Steffan dros y pum mlynedd nesaf, ond dyw hynny ddim yn mynd i greu un swydd ychwanegol yng Nghymru.

“Mae’r dewis ddydd Iau yn glir – fe allen ni greu 50,000 o swyddi a chefnogi busnesau bach gyda Phlaid, neu wynebu pum mlynedd o ddirywiad economaidd dan y Blaid Lafur.”