Mae cwmni Paddy Power yn rhagweld na fydd y Blaid Lafur yn sicrhau mwyafrif yn Etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau.

Dywedodd y bwcis fod llawer iawn o arian wedi ei roi ar 27-29 sedd i’r Blaid Lafur dros y 72 awr ddiwethaf.

Mae gamblwyr yn credu y bydd plaid Carwyn Jones ychydig yn fyr o fwyafrif ac wedi rhoi eu harian ar yr ods 11/10 sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Yn ôl y gamblwyr fe fydd Llafur yn dod yn agos iawn at y 31 sedd sydd ei angen ar gyfer mwyafrif ond yn methu a chroesi’r llinell derfyn o un neu ddwy sedd,” meddai Ken Robertson o Paddy Power.

Mae yna ambell i broffwydoliaeth arall, sy’n awgrymu etholiad da i Lafur, un cymysglyd i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ond un gwael i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y bwcis Plaid Cymru yw’r ffefrynnau i gadw sedd Aberconwy ar 4/6, â’r Blaid Lafur yn ail ar 11/10, a’r Ceidwadwyr yn drydydd ar 6/1.

Yng ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro mae Llafur yn ffefrynnau ar 2/5, y Ceidwadwyr yn ail ar 7/2, a Phlaid Cymru yn drydydd ar 4/1.

Yng Ngogledd Caerdydd mae gwraig y Cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, Julie Morgan, yn ffefryn (2/5) i gipio’r sedd oddi ar y Ceidwadwyr sydd ar 13/8.

Yng Nghaerffili mae disgwyl i Lafur fynd a hi ar 3/10, tra bod Ron Davies ar 2/1.

Yng Ngheredigion mae Plaid Cymru ar 2/11 a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 3/1.

Yn Llanelli mae Plaid Cymru yn ffefrynnau ar 8/11 a’r Blaid Lafur ar ods cyfartal.

Yn Sir Drefaldwyn mae’r Ceidwadwyr yn ffefrynnau ar 8/15 a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ar 11/8.

Dyma ods y Blaid Lafur
16/1     23 sedd i’r Blaid Lafur
9/2      24 i 26
11/10   27 i 29
11/8    30 i 32
5/2      33 i 35
14/1    36 neu fwy