Llwyddodd y Ceidwadwyr i gipio’r sedd hon yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. A fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu eu dal nhw yn ôl eleni?

Yr Etholaeth

Mae’r Dems Rhydd wedi eu hethol i’r Cynulliad dair gwaith yn olynol yn Sir Drefaldwyn, a hynny o fwyafrif cyfforddus bob tro.

Ond eleni mae’r Aelod Cynulliad sydd wedi cynrychioli’r blaid ers 1999, Mick Bates, yn sefyll i lawr – misoedd wedi iddo gael ei ddiarddel gan ei blaid ar ôl ymosodiad meddwol ar barafeddygon.

Mae’r Dems Rhydd yn gobeithio y gall yr ymgeisydd newydd, Wyn Williams, gadw’r sedd iddyn nhw, tra bod y Ceidwadwyr yn ceisio elwa ar y newid er mwyn cipio’r sedd gyda’u hymgeisydd, Russell George – flwyddyn union wedi iddyn nhw ddisodli Lembit Opik, a chipio’r sedd yn etholiad San Steffan.

Bryd hynny roedd Cleggmania yn ei anterth, ond mae’r polau piniwn diweddaraf yn dangos cynnydd yng nghefnogaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru, tra bod y Dems Rhydd wedi syrthio yn y polau piniwn ers ymuno â chlymblaid San Steffan.

Mae’n etholaeth eang a gwledig, gyda’r trefi mwyaf yn ymestyn o Fachynlleth yn y gorllewin, i drefi’r Trallwng a’r Drenewydd yn agosach at y ffin â Lloegr.

Un o’r pynciau llosg yn yr etholaeth yw cynlluniau’r grid cenedlaethol i godi peilonau a gorsaf drydan fydd yn croesi i ffermydd gwynt yng Ngheredigion.

Mae’r cynlluniau yn wynebu gwrthwynebiad mawr yn lleol, gan ddod a 1,500 o bobol at ei gilydd yr wythnos diwethaf mewn cyfarfod cyhoeddus ar y mater.

Mae’r cynlluniau wedi creu peth drwg deimlad at y Cynulliad hefyd, gydag arwyddion mawr wedi eu gosod yn lleol gyda’r geiriau ‘Welsh Assembly, we’re not mugs, no to pilons, no to hubs’.

Mae’n fater sydd hefyd wedi datgelu peth gwahaniaeth barn rhwng y ddau brif ymgeisydd – y Ceidwadwyr yn chwyrn yn erbyn y syniad ond y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi datblygu egni adnewyddadwy.

Wyn Williams – Democratiaid Rhyddfrydol

Dydi Wyn Williams ddim yn amau gallu’r un o’r pedwar ymgeisydd i fynd â hi yn Sir Drefaldwyn eleni.

“Mae tri ymgeisydd da iawn yn fy erbyn i eleni,” meddai wrth Golwg 360.

Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cefnogi ei fod wedi gorfod dechrau â llechen lân i’r Dems Rhydd, ac fel newydd ddyfodiad i wleidyddiaeth.

“Dyma’r tro cyntaf i fi sefyll yn ymgeisydd,” meddai, “dw i ’di dod o du allan i wleidyddiaeth, heb fod yn gynghorydd na dim cyn hyn.”

Mae Wyn Williams yn credu mai dyma un o’i gryfderau fel ymgeisydd, a bod ei gefndir ym myd busnes a ffermio yn golygu ei fod yn gwybod beth sydd ar feddyliau’r bobol.

Nod ei slogan – ‘Win with Wyn Williams’ – yw mai buddugoliaeth i’r sir gyfan, nid y Democratiaid Rhyddfrydol yn unig, fyddai ei ethol.

Er gwaethaf amhoblogrwydd Nick Clegg yn genedlaethol, mynnodd Wyn Williams fod ei ymweliad â Sir Drefaldwyn wedi bod yn hwb i’w ymgyrch.

“Mae’n dipyn o hwb bod rhywun mor uchel i fyny yn San Steffan yn fodlon dod i wrando ar faterion lleol,” meddai Wyn Williams.

“Mae’n dangos fod gyda fe ddiddordeb,” meddai, “sy’n gysur i’r bobol rydyn ni’n cyfarfod ar stepen y drws sy’n poeni nad oes diddordeb gan wleidyddion yng nghefn gwlad.”

Mae Wyn Williams yn cyfaddef, fodd bynnag, y bydd hi’n anodd ar y Democratiaid Rhyddfrydol eleni.

Dywedodd fod canlyniad etholiad San Steffan wedi bod yn dipyn o ergyd i’r Dems Rhydd yn Sir Drefaldwyn yn 2010.

“Y toriadau sydd wedi effeithio arnom ni fwyaf,” meddai, “er bod rhaid eu cael nhw.”

Mae’n cyfaddef hefyd nad yw ei ymgyrch wedi llwyddo i ddenu nifer fawr  o bleidleiswyr Llafur i’w gefnogi hyd yn hyn.

“R’yn ni jyst yn gorfod derbyn sylwadau rhai,” meddai.

“Dw i yn disgwyl iddi fod yn agos, achos roedd e’n agos o’r blaen, cyn yr etholiad diwethaf,” meddai.

Ychwanegodd fod y canlyniad 2010 wedi bod yn “dipyn o siom” i’r blaid.

“Unwaith o’r blaen mewn can mlynedd ry’n ni wedi colli’r sedd yn San Steffan,” meddai, “ond rhaid i ni barchu’r gŵr a enillodd am ei fod yn ymgyrchydd cryf iawn.”

Ond mae’n dweud mai materion lleol fydd yn bwysig i etholwyr ar ddiwedd y dydd. “Rydyn ni yng Nghymru, ac etholiad Cymru yw hon.”

Mae mater y ffermydd gwynt yn yr ardal yn un sydd wedi codi ei ben yn aml iddo.

“Dydw i ddim yn erbyn ffermydd gwynt,” meddai, gan gadarnhau nad yw’n ymadael yn llwyr â galwadau ei ragflaenydd, Mick Bates, am fwy o fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, “ond dydw i ddim eisiau bod y cyfan yn dod i Sir Drefaldwyn.

“Rydyn ni o blaid gwynt fel egni,” meddai wedyn, “ond rhaid iddo fod yn rhan o ddatblygiad ynni gwyrdd ehangach.”

Mae Wyn Williams yn disgwyl iddi fod yn agos ar 5 Mai, a hynny rhwng y Dems Rhydd a’r Ceidwadwyr. “Ond dw i yn hyderus.”

Russell George – Ceidwadwyr

Dyma’r tro cynaf i Rusell George sefyll etholiad cenedlaethol ar ran y Ceidwadwyr, er ei fod yn gynghorydd sir ers tair blynedd bellach.

Mae’n credu mai dyma un o’r prif wahaniaethau rhyngddo ef ac Wyn Williams.

“Mae gen i lawer mwy o brofiad nag ymgeisydd y Dems Rhydd, wedi tair blynedd ar y Cyngor Sir, ac mae gen i hefyd brofiad o redeg busnes.”

Er hynny, mae’n cytuno mai “brwydr agos iawn fydd hi rhwng y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd” – gan awgrymu fod gan y Ceidwadwyr beth ffordd i fynd cyn bod yn hyderus o gipio’r sedd.

Mae Russell George yn dweud bod “swing anferthol” i’r Ceidwadwyr y llynedd, pan enillodd Glyn Davies y sedd yn San Steffan, wedi bod yn galonogol iawn i’w blaid yn yr etholaeth.

“Mae’r shift o’r Dems Rhydd at y Ceidwadwyr yn yr etholaeth wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd bellach,” meddai, “ac mae hynny wedi ei adlewyrchu  ar y cyngor sir.”

Mae e hefyd yn credu y bydd ei safiad pendant yn erbyn y ffermydd gwynt a bwriad y grid cenedlaethol i godi gorsaf drydan yn yr etholaeth yn ennyn cefnogaeth yn lleol.

“Dydyn nhw jest ddim yn ymarferol,” meddai, “dwi’n llwyr yn erbyn y cynlluniau i godi ffermydd gwynt.”

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd amseru’r refferendwm ar y system Bleidlais Amgen hefyd o fudd i’r Ceidwadwyr.

“Bydd y bleidlais AV yn helpu’n hymgyrch ni eleni,” meddai Russell George, “gan nad yw llawer iawn o’n pleidleiswyr ni yn mynd allan i bleidleisio yn etholiadau’r cynulliad fel arfer.”

Mae e’n credu y bydd hyn yn help i’r blaid Geidwadol ar draws Cymru gyfan eleni, “ac yn Sir Drefaldwyn, gobeithio.”

Canlyniadau Etholiad 2007

Mick Bates Dems Rhydd 8,704 39.0%
Dan Munford Ceidwadwyr 6,725 30.2%
David Thomas Plaid Cymru 3,076 13.8%
Bruce Lawson UKIP 2,251 10.1%
Rachel Maycock Llafur 1,544 6.9%

Ymgeiswyr Sir Drefaldwyn, Etholiad 2011

Russell George Ceidwadwyr
Wyn Willliams Dems Rhydd
Nick Colbourne Llafur
David Senior Plaid Cymru