Mae’r heddlu yn galw am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar ddyn 30 oed y tu allan i dafarn.

Digwyddodd yr ymosodiad ar Stryd Fawr Y Bont-faen, ym Mro Morgannwg, ger tafarn y Duke of Wellington.

Aethpwyd a’r dyn i’r ysbyty ar ôl iddo ddioddef  anafiadau i’w wyneb yn yr ymosodiad am 11.35pm ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n chwilio am dri pherson mewn cysylltiad â beth ddigwyddodd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.