Fe fu farw Les Morrison, dyn o Fethesda a fu’n ffigur amlwg mewn canu roc yng Nghymru ers degawdau.

Fel peiriannydd a chynhyrchydd, daeth ei stiwdio – Stiwdio Les ar Stryd Fawr Bethesda – yn ganolfan boblogaidd i lawer o brif fandiau Cymraeg yr 1970au a’r 1980au.

Oddi yno y blagurodd grwpiau fel Maffia Mr Huws, Celt a Jecsyn Ffeif, ac yn ddiweddarach fe fu rhai o enwau mawr y byd roc fel Cerys Matthews a’r Super Furry Animals yn recordio yno.

Arferai ddisgrifio ei hun fel rhywun a oedd bob amser yn codi uwchlaw unrhyw wrthdaro rhwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ei fod yn gwbl gartrefol yn y ddwy iaith fel ei gilydd.

Dyled – SFA

Dywedodd canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys, bod eu dyled nhw a cherddorion eraill yn anferthol iddo.

“Fe gefnogodd gerddorion ei fro i’r carn,” meddai mewn teyrnged ar ei wefan.
“Colled anferthol i’w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion.

“Diolch Les. Bydd byth dy debyg ac fe gofiwn dy garedigrwydd ath gyfeillgarwch am byth.”