Mae teulu mam “ymroddgar” a’i merch fach a gafodd eu ladd mewn damwain car wedi talu teyrnged deimladwy iddyn nhw.

Roedd Stephanie Curtis, 35, o Nantyglo, Blaenau Gwent, wedi cael ei gadael yn ymladd am ei bywyd ar ôl y ddamwain angheuol ddydd Iau.

Fe fu farw yn Ysbyty’r Heath, Caerdydd, yn hwyr nos Iau, oriau ar ôl marwolaeth ei merch chwe blwydd oed, Ffion Merrifield.

Roedd y trychineb wedi digwydd tua 11 y bore ar ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Brynmawr ad Gilwern.

Roedd hi’n gyrru Peugeot glas a oedd mewn gwrthdrawiad â Mercedes arian yn cludo dwy ddynes, a ddioddefodd fân anafiadau yn y ddamwain.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi trwy Heddlu Gwent, dywedodd y teulu:

“Stephanie oedd partner cariadus Darren a mam ei ddau o blant gyda Ffion yr hynaf.

“Roedd hi’n fam ymroddgar i’w phlant ac fe fydd ei theulu a’i ffrindiau a’r gymuned leol yn gweld colled enfawr ar ei hôl hi a Ffion.”

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i achos y ddamwain ac yn apelio am dystion.