Y cwpl brenhinol yn Abaty Westminster
Mae dros ddwy fil o bobl wedi bod yn gwylio’r briodas frenhinol ar ddwy sgrin anferth yn sir Fôn lle bydd y cwpl yn byw.

Mae’n debyg mai’r digwyddiad yma ar gae sioe Mona oedd y dathliad brenhinol mwyaf y tu allan i Lundain heddiw.

Roedd cymeradwyaeth fyddarol ymysg y dorf bob tro yr oedd Sir Fôn yn cael ei henwi yn y gweithgareddau yn Llundain.

“Mae hi’n ddiwrnod ardderchog i Fôn ac i’r wlad i gyd,” meddai Steve Rogerson, un o griw bad achub Trearddur, a oedd wedi cyfarfod y Tywysog William a Kate Middleton pan oedden nhw’n lansio bad achub newydd yno’n ddiweddar.

“Dw i wedi bod yn ddigon lwcus i’w cyfarfod ac maen nhw’n gwpl ffantastig. Dw i wedi dod â phawb o’m teulu, ac mae pawb o’n ffrindiau a’n cymdogion ni yma.

“Dan ni eisio dathlu’r briodas ac yn dymuno priodas hir a hapus i William a Kate.”

Dywedodd Christine Anderson, a arferai weithio yng ngorsaf RAF y Fali y byddai pobl Môn yn rhoi preifatrwydd i’r cwpl brenhinol.

“Dod yma fydd eu gobaith gorau o fyw bywyd normal,” meddai.

“Mae’n wych gweld y dorf, y teimlad o undod a balchder. Dyma’n union y mae ar y wlad yma’i angen – rheswm dros wenu.”

Ymysg dathliadau eraill ym Môn yr oedd parti ar y traeth yn Rhosneigr a pharti yn neuadd bentref Aberffraw, un o’r pentrefi agosaf at gartref y Dug a’r Dduges newydd.

Yng ngweddill Cymru, mae dros 250 o bartion stryd wedi cael eu cynnal, gan gynnwys dros 50 yng Nghaerdydd, ac mae cannoedd hefyd wedi bod yn treulio’r diwrnod yng nghastell Penfro lle mae pob math o adloniant wedi bod ymlaen drwy’r dydd.