Y priodfab a'r briodferch
Fe fydd gan Gymru ran amlwg yn seremoni briodas y Tywysog William a Kate Middleton yn Llundain.

Erbyn iddi wawrio heddiw, roedd miloedd o bobol eisoes wedi casglu rhwng Abaty Westminster a Palas Buckingham i geisio gweld cip o’r orymdaith briodas.

Mae disgwyl rhai miloedd ar faes sioe Môn ym Mona hefyd, lle bydd sgrin fawr yn dangos lluniau o briodas y ddau sy’n byw ar hyn o bryd yn yr ynys.

Yn ôl un amcangyfri’, fe fydd 48 o griwiau teledu Prydeinig a thramor yn tyrru i Fôn hefyd.

Cymry yn y ddinas

Y Cymro, Rowan Williams, Archesgob Caergaint, fydd yn cynnal y seremoni ac un o’r tonau Cymreig enwoca’ – Cwm Rhondda – fydd un o’r emynau.

Yn ôl y traddodiad, fe fydd aur Cymreig o bwll Clogau ger Dolgellau yn y fodrwy briodas ac fe fydd darno gerddoriaeth gan gyfansoddwr o Fôn, Paul Mealor, yn rhan o’r seremoni.

Ymhlith y Cymry yn y gynulleidfa, fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas a’r ddau chwaraewr rygbi Martyn Williams a Gareth Thomas.

Yn ôl yr amcangyfri’, tua 200 o bartïon stryd sy’n debyg o fod yng Nghymru.

Na, nid y briodas

Ond mae rhai hefyd yn gwneud pethau eraill – yn eu plith rhai o aelodau Clwb Mynydda Cymru sydd wedi trefnu taith heddiw i ardal Hyddgen a Phumlumon, un o’r llefydd pwysig yn hanes tywysog ola’ Cymru Owain Glyndŵr.

Ac mae llysgenhadaeth Owain Glyndŵr wedi galw ar i bobol chwifio baner y tywysog i ddangos eu gwrthwynebiad.

“Apeliwn am i bob gwir wladgarwr Cymreig gyflawni’r weithred sylfaenol yma,  fel modd o ddangos i’r Wladwriaeth Seisnig a’u brenhiniaeth i ni fod yma o hyd ac yr un mor deyrngar i achos Glyndŵr dros ryddid ac y buom erioed!” meddai Sian Ifan, Prif Weithredwr y mudiad.

“Neu, a ydych i gyd wedi anghofio ac wedi cefnu ar yr hyn bu i Glyndŵr a’i gyd- Gymry frwydro ac aberthu cymaint drosto?”