Gwesty Carreg Mon - 'dim problem gyda'r Gymraeg'
Fe fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn llunio polisi iaith i westy sydd wedi bod yng nghanol helynt tros honiadau am wahardd y Gymraeg.

Fe fu swyddogion o’r Bwrdd yng ngwesty Carreg Môn yn Llanfairpwll ddoe ac maen nhw’n dweud y bydd y polisi newydd yn egluro hawliau aelodau o’r staff i siarad Cymraeg â’i gilydd.

Yn ôl rheolwraig y gwesty, fydd hynny’n gwneud dim ond cadarnhau eu polisi presennol – mae hi’n dweud fod gan staff hawl i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.

Y polisi

Fe fydd cymal arbennig yn y polisi yn  “mynd i’r afael â rhyddid staff i siarad Cymraeg yn y gweithle”, meddai llefarydd ar ran y Bwrdd wrth Golwg360.

“Fe fydd y polisi’n dweud bod gan staff ryddid i siarad Cymraeg efo’i gilydd yn y gwesty”

Os bydd rheolwyr Carreg Môn yn hapus â’r polisi, ni fydd cyfarfod arall rhwng swyddogion y Bwrdd a rheolwyr.

Y cefndir

Fe gododd yr helynt ar ôl honiadau bod staff wedi’u gwahardd rhag siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn y gegin.

Roedd y rheolwraig, Ruth Hogan, yn gwadu hynny, gan ddweud mai’r unig orchymyn oedd i beidio â siarad Cymraeg yn y pas – lle mae’r bwyd yn cael ei weini – gyda’r cogydd, Bob Marshall, sy’n ddi-Gymraeg.

Iechyd a diogelwch oedd y rhesymau a roddwyd am y gorchymyn ar y dechrau.

Fe fu Cymdeithas yr Iaith yn protestio’n erbyn y datblygiadau ac mae rhai pobol leol wedi galw ar i eraill beidio â defnyddio’r gwesty.

‘Ticio’r bocsys’

Dogfen wirfoddol fydd y polisi iaith newydd ac, yn ôl Ruth Hogan, sydd ar fin gadael ei swydd yn  Rheolwr Cyffredinol y gwesty, maen nhw eisoes yn cadw at yr amodau.

“Ticio’r bocsys ydan ni mewn gwirionedd,” meddai. “Rydan ni’n gwneud hyn yn barod, ond mi fydd hi’n bosibl i bawb edrych ar eu gwefan (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) a gweld ein bod ni’n aelodau … Dydi’r iaith ddim yn broblem yma,” meddai.

“Mae staff yn siarad Cymraeg efo’i gilydd. Mi wnan nhw siarad Cymraeg efo’i gilydd hyd yn oed yn y pas … y cwbl dw i’n ei wneud ydi gofyn iddyn nhw beidio siarad Cymraeg efo’r Prif Gogydd – synnwyr cyffredin ydi hynny.”

‘Llond bol’

Fe ddywedodd Ruth Hogan ei bod wedi cael llond bol ar yr helynt a bod hynny’n rhan o’r rheswm ei bod yn gadael ar ôl pum mlynedd yn y swydd.

“Fydda i mor falch i gerdded i ffwrdd o’r lle yma mewn cwpl o wythnosau. Dw i’n sâl o’r holl beth. Mae’r cyfan wedi fy effeithio arna’ i’n ofnadwy. Dw i eisiau tynnu llinell o dan y cyfan.”