Carwyn Jones
Mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi addewid diamod fod holl ysbytai dosbarth Cymru’n ddiogel.

Roedd honiadau fod gan Lafur gynllun i gau rhai ohonyn nhw yn “nonsens” ac yn “wirion”, meddai Carwyn Jones.

“Doedd hi ddim yn wir erioed bod unrhyw fygythiad i Ysbytai Dosbarth Cyffredinol,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn hawlio mai nhw oedd wedi atal llywodraeth y glymblaid yng Nghaerdydd rhag cau rhai ysbytai, ond roedd Carwyn Jones yn gwadu hynny.

Doedd dim arwyddocâd i’r ffaith nad oedd addewid am yr ysbytai yn y maniffesto Llafur, meddai – doedd Plaid Cymru ddim yn sôn am gau ysgolion chwaith, ond doedd hynny ddim yn golygu eu bod am eu cau i gyd.

Gwrthod trafod clymblaid

Fel gweddill yr arweinwyr, mae wedi gwrthod dweud gyda phwy y byddai Llafur yn trafod pe bai angen clymblaid ar ôl yr etholiad ddydd Iau.

Roedd Llafur yn ceisio sicrhau mwyafrif mathemategol clir, meddai, cyn cyfadde’ y byddai unrhywbeth llai na hynny’n creu sefyllfa “anodd iawn”.

“Dyw pobol ddim yn pleidleisio i glymblaid,” meddai. “Maen nhw’n pleidleisio i blaid.”