Sylw gan Imogen Thomas ar Twitter adeg torri'r stori
Fe ddywedodd y fodel o Gymraes, Imogen Thomas, ei bod wedi cael “ei thaflu i ffau’r llewod” tros ei pherthynas gyda chwaraewr pêl-droed priod.

Mae hwnnw wedi llwyddo i ddod â gwaharddiad llys i atal neb rhag cyhoeddi manylion am y garwriaeth na hyd yn oed i grybwyll ei enw.

Ond fe ddywedodd y ferch 28 oed o Lanelli ei bod hi’n diodde’ am nad oes ganddi ddigon o arian i gymryd camre cyfreithiol.

Mae yna ddadlau mawr tros y gwaharddiadau, sydd hyd yn oed weithiau’n gwahardd neb rhag dweud bod gwaharddiad.

Ddechrau’r wythnos fe gyfaddefodd y newyddiadurwr, Andrew Marr, ei fod ef wedi dod â gwaharddiad er mwyn cuddio perthynas y tu allan i’w briodas.

Paid â dweud

Mae Imogen Thomas yn gwadu ei bod wedi bwriadu gwerthu ei stori am y chwaraewr – mae yna lawer o ddyfalu wedi bod yn y wasg ac ar y We ynghylch ei enw.

Ar y rhaglen deledu, This Morning, fe ddywedodd y cyn gystadleuydd ar Big Brother ei bod yn teimlo’i bod wedi cael ei defnyddio.

“Rwy’n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn wnes i. Rwy’n gwybod bod beth wnes i’n anghywir ac rwy’n talu am hynny.

“Fydden i’n hoffi petai fy enw i wedi’i warchod. Doedd gen i ddim arian i gael gwaharddiad.”

Roedd neges gan gyfreithiwr y chwaraewr pêl-droed yn bygwth y byddai’n wynebu carchar pe bai’n siarad.