Aled Davies
Mae’n hen bryd cael gweinidog dros y Gogledd yn y Cynulliad – ond nid i’r Canolbarth na’r Gorllewin, meddai ymgeisydd Ceidwadol.

Ar y rhaglen Hacio heno, fe fydd Aled Davies, sy’n sefyll yn etholaeth Arfon ar ran y Ceidwadwyr, yn ailadrodd addewid y blaid i greu Gweinidog i’r Gogledd pe baen nhw’n ennill.

Ond fe ddywedodd wrth Golwg360 nad oedd angen cael swydd debyg i rannau eraill o’r wlad.

“Does dim angen gweinidog i bob rhan o’r wlad,” meddai. “Mae pobol y Gogledd yn llawer mwy anhapus gyda’r Cynulliad na phobol y de.”

Yn y Cabinet

Y bwriad, yn ôl Aled Davies, yw cael gweinidog yn y Cabinet yn cynrychioli buddiannau gogledd Cymru ym mhob penderfyniad sy’n cael ei wneud.

“Os bydd rhyw gynnig yn dod i fyny a hwnnw ddim yn gweithio i’r Gogledd,” meddai, “bydd yna lais cryf o gwmpas y bwrdd dros y Gogledd.

“Ar hyn o bryd mae’r buddsoddiad yn mynd i’r De, a dyw e ddim yn cyrraedd llawer pellach na Merthyr mewn gwirionedd.”

Bydd rhaglen etholiad Hacio ar S4C am 9pm heno, gyda phanel o bobol ifanc yn holi Eleanor Burnham o’r Democratiad Rhyddfrydol, Alun Davies o’r Blaid Lafur, Bethan Jenkins o Blaid Cymru ac Aled Davies o’r Ceidwadwyr.