Arweinydd Palid Cymru, Ieuan Wyn Jones
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, sy’n dweud fod angen trawsnewid sefyllfa addysg, economi, iechyd a chysylltiadau Cymru…

Mae Etholiad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai yn gyfle i ni newid ein cenedl er gwell.

Yn y cyfnod heriol hwn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol i drawsnewid ein cenedl.  Bydd Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf i wella safonau mewn ysgolion a chreu swyddi o safon ledled Cymru.

Mae ein prif bolisïau yn canolbwyntio ar bedwar maes: addysg, yr economi, iechyd a chysylltu Cymru fel cenedl.

O ran addysg, bydd y Blaid yn gwneud yn siŵr y gall plant sy’n gadael yr ysgol gynradd ddarllen, ysgrifennu a chyfrif i’r safon a ddisgwylir. Ar hyn o bryd, mae gormod o’n plant yn gadael yr ysgol heb feddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo mewn bywyd. All hyn ddim parhau. Bydd llywodraeth y Blaid yn cael y pethau sylfaenol yn iawn i genedlaethau’r dyfodol.

Bydd y Blaid yn helpu i dyfu ein heconomi a’n busnesau bach, yn creu miloedd o swyddi newydd ac yn helpu pobl i gael yr hyfforddiant a’r sgiliau ar gyfer swyddi tymor hir. Bydd cwmni Adeiladu dros Gymru y Blaid yn buddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai a thrafnidiaeth ac yn creu hyd at 50,000 o swyddi newydd ar draws Cymru. Bydd Bonws Busnesau Bach y Blaid yn cyflwyno cynllun newydd gwerth £90 miliwn i roi benthyciadau i fusnesau bach a hefyd sicrhau parhad rhyddhau treth i helpu datblygu canol ein trefi.  Bydd y Blaid hefyd yn cefnogi 30,000 prentisiaeth ac yn annog sgiliau a gallu pobl ifanc i gael swyddi ar draws Cymru.

O ran iechyd, byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau gofal iechyd cyflym ac effeithiol yn eich cymuned.  Pan ddaeth y Blaid i lywodraeth, rhoesom ddiwedd ar gynllun trychinebus Llafur i israddio ysbytai, gan amddiffyn eich gwasanaethau iechyd lleol hanfodol. Ond fe wyddom y gall ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol fod hyd yn oed yn well. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn eich helpu i weld meddyg neu ddeintydd pan fydd arnoch angen – er enghraifft, drwy wneud yn siwr bod mwy o wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau pan fydd eu hangen. Byddwn hefyd yn helpu i greu mwy o ddeintyddion y GIG mewn ardaloedd lle mae’r galw yn uchel.

Mae ein pedwaredd prif bolisi yn ymwneud â Cysylltu Cymru. Rydym yn dibynnu ar drafnidiaeth a thechnoleg effeithiol er gyfer busnes a bywyd bob-dydd, ond mewn sawl rhan o Gymru mae angen i’r cysylltiadau yma fod yn llawer gwell. Bydd y Blaid yn arloesi gyda gwelliannau mawr mewn ffonau symudol, band eang a wifi gan gynnwys mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn cysylltu pob busnes a chartref i fand eang cyflym ac yn gwella mynediad i wifi er mwyn gwneud Cymru yn Genedl Ddiwifr. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu gwell system drafnidiaeth i gael Cymru i symud – gan gyflymu’r daith i’r gwaith a rhoi i chi ffyrdd cyflym, dibynadwy a fforddiadwy o deithio. Byddwn yn trydanu mwy o reilffyrdd ar draws Cymru a gwella ein gwasanaethau bysus. Bydd Cymru fwy cysylltiedig yn helpu ni i greu Cymru lwyddiannus.