Dr Geraint Tudur
Gydag un capel yn cau bob wythnos yng Nghymru, rhaid i Gristnogion godi i’r her o adfywio’r ffydd trwy fod yn fwy gweithgar yn eu cymunedau, dywed Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr, yn ei neges ar gyfer y Pasg. 

“Mae’r eglwys wedi goroesi cyfnodau anodd fel hyn o’r blaen,” meddai Dr Tudur. “Mae gan Dduw, yn gweithio trwy ei bobl, y gallu i atgyfodi Cristnogaeth yng Nghymru.”

“Mae grym atgyfodiad Crist yn ddeinamig oesol sydd wedi cynnal a gyrru yr eglwys Gristnogol  drwy’r canrifoedd hyd y dydd heddiw,” meddai Dr Tudur. “Addawodd Iesu i fod gyda ni bob amser hyd ddiwedd amser. Mae’r eglwys wedi goroesi amserau enbyd yn y gorffennol, bydd hefyd yn dod trwy’r cyfnod anodd hwn.”

“Mae Duw yn gweithio trwy ei bobl, ac fel pobl Dduw, mae galw arnom i droi ein ffydd yn weithredoedd. Mewn cymdeithas sy’n gaeth i bob math o ofnau, pryderon a phroblemau, gall yr eglwys leol helpu i ysgafnhau baich pobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

“Mae’n rhaid i eglwysi ailddarganfod eu cenhadaeth, a gweld y rheswm dros eu bodolaeth. Eu cenhadaeth yw dangos wyneb Iesu Grist i bobl mewn pob math o anghenion – corfforol ac ysbrydol – a thrwy hynny, rhoi iddynt obaith. ”