Jane Hutt
Bydd adfywio trefni glan mor yn ganolog i strategaeth dwristiaeth Llafur yng Nghymru, meddai Jane Hutt.
Wrth i filoedd o deuluoedd ar draws Prydain ddod i Gymru dros benwythnos y Pasg, mae ymgeisydd Cynulliad Llafur Bro Morgannwg wedi dweud y gall y diwydiant twristiaeth helpu arwain adferiad economaidd yng Nghymru.
Roedd Jane Hutt a Glenys Kinnock ar Ynys y Barri heddiw, lleoliad ffilmio’r gyfres deledu Gavin and Stacey – i gyhoeddi cynlluniau twristiaeth Llafur.
‘Adeiladu’
“Yma, ar Ynys y Barri, rydan ni wedi gweld bŵm twristiaeth enfawr oherwydd y gyfres deledu Gavin and Stacey. Mae wedi elwa’r economi leol, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n adeiladu ar hynny,” meddai Jane Hutt, ymgeisydd Bro Morgannwg.
“Rydan ni wedi gweld twf calonogol iawn mewn meysydd fel twristiaeth gynaliadwy ac eco-dwristiaeth ar draws Cymru. Ond, nid ydym am i’n trefi glan môr traddodiadol wywo o ganlyniad i hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod digon o wasanaethau amgen eraill a gweithgareddau ar draws yr ardal i ymestyn y tymor gwyliau.”
‘Gymaint i gynnig’
Fe ddywedodd Glenys Kinnock fod gan Gymru “gymaint i gynnig i dwristiaid”.
“Gyda Llafur yng Nghymru yn y Cynulliad, rydan ni wedi llwyddo diogelu rhai o ddigwyddiadau mwyaf mawreddog y byd gan gynnwys Cwpan Ryder, Prawf Ashes, chwe ffeinal Cwpan FA ac fe fydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiad chwaraeon cyntaf Gemau Olympaidd Llundain y flwyddyn nesaf.
“Fe fydd Llywodraeth Lafur yn y Cynulliad yn parhau i fidio am fwy o ddigwyddiadau cyffrous yng Nghymru gan ddod a buddsoddiad i Gymru a chodi proffil y wlad.”